Cadeiryddion Prifysgolion Cymru

Prifysgolion Cymru yn 2004 i fod y corff cynrychioliadol ar gyfer Cadeiryddion cyrff llywodraethol prifysgolion. Mae’n gorff unol sy’n cynnwys holl brifysgolion Cymru, waeth beth yw eu cenhadaeth na’u tarddiad. Yn hynny o beth, mae’n adlewyrchu amrywiaeth y sector addysg uwch yng Nghymru, ac mae felly’n ceisio rhoi sylw i faterion generig yn hytrach na rhai penodol. Gweithia gydag ystod eang o randdeiliaid, ac mae ganddo berthynas agos ag Prifysgolion Cymru.
Trwy rannu eu gwybodaeth, arbenigedd a materion, gall Cadeiryddion weithredu’n fwy effeithlon i helpu eu cynghorau a byrddau i gyflawni eu cyfrifoldebau, ac i gyfrannu eu gwybodaeth, profiad a phersbectif eu hunain wrth ystyried materion o bwys.
Egwyddorion CAUC yw:
- bod yn gorff galluogol sy’n ceisio sicrhau bod ei aelodau yn wybyddus am faterion a datblygiadau perthnasol, fel eu bod yn fwy abl i gyflawni eu swyddogaethau er mwyn sicrhau atebolrwydd a chynaliadwyedd eu sefydliadau.
- mynd i’r afael â materion polisi strategol yn ymwneud â thueddiadau mewn Addysg Uwch yn gyffredinol ac â chyfrifoldebau penodol aelodau cyrff llywodraethol.
- bod yn gorff adeiladol sy’n ceisio cyfrannu profiad, gwybodaeth a phersbectif arbennig ei aelodau.
- bod yn gorff sy’n darparu fforwm a rhwydwaith i’w aelodau er mwyn iddynt allu rhannu materion a phryderon cyffredin mewn amgylchedd cefnogol.
- cynnal ei waith heb effeithio ar annibyniaeth sefydliadau ei aelodau.
Nodau CAUC yw:
- cefnogi’r sector Addysg Uwch i ddatblygu’r safonau llywodraethu uchaf sy’n briodol i sector sy’n cynnwys sefydliadau annibynnol sy’n gwasanaethu nifer fawr o randdeiliaid gwahanol ac sy’n allweddol i ffyniant y genedl.
- hyrwyddo arfer gorau wrth lywodraethu prifysgolion.
- gweithio gyda llywodraethwyr unigol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, fel y mae’r rheiny’n berthnasol i lywodraethiant da eu sefydliadau, trwy (er enghraifft), raglenni datblygu llywodraethwyr.
Adolygiad Annibynnol o Lywodraethiant yng Nghymru
Comisiynodd Is-Gangellorion a Chadeiryddion prifysgolion yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Gillian Camm i gynhyrchu adolygiad annibynnol o lywodraethiant ym mhrifysgolion Cymru (Adolygiad Camm).
Mewn ymateb i hyn, mae’r sector prifysgolion yng Nghymru wedi creu’r Siarter Llywodraethiant ar gyfer Prifysgolion yng Nghymru, ynghyd ag Ymrwymiad i Weithredu sy’n nodi’r camau y bydd y sector yn eu cymryd mewn ymateb i Adolygiad Camm.
Mae’r Siarter hon yn ymrwymiad i ddatblygu rhaglen newid o amgylch llywodraethiant, gan gynnwys camau penodol ar draws y sector.