Y Cyd-destun Gwleidyddol

Mae Prifysgolion Cymru yn cyfathrebu a thrafod gyda nifer o sefydliadau gwleidyddol.
Yng Nghymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff deddfwriaethol sy’n gyfrifol am addysg uwch. Cynhelir gwaith y Cynulliad Cenedlaethol mewn cyfarfodydd llawn a chyfarfodydd pwyllgor. Y prif bwyllgorau a chanddynt ddiddordeb mewn addysg uwch yw’r: Pwyllgor Menter a Busnes; y Pwyllgor Cyllid; a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Fodd bynnag, mae cyrhaeddiad addysg uwch yn eang, a bydd pwyllgorau eraill yn galw ar brifysgolion i ddarparu tystiolaeth o bryd i’w gilydd.
Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn gyfrifol am addysg uwch yng Nghymru. Y Gweinidog Addysg a Sgiliau presennol yw Huw Lewis AC. Mae Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth hefyd yn adran bwysig i addysg uwch yng Nghymru, gan ei bod yn gyfrifol am ddatblygu economi gref. Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar hyn o bryd yw Edwina Hart MBE CStJ AC.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hyd at £50 miliwn i raglen Sêr Cymru er mwyn cryfhau ac adeiladu ar allu ymchwil yng Nghymru. Lansiwyd y cynllun ym mis Mehefin 2013, ac mae’r rhaglen yn gwahodd cynigion ym mhob un o feysydd ymchwil yr Her Fawr, fel y’u nodir yn strategaeth ‘Gwyddoniaeth i Gymru’ Llywodraeth Cymru: uwch beirianneg a deunyddiau; gwyddorau bywyd ac iechyd; a charbon isel, ynni ac amgylchedd.
Yn y DU
Er y cafodd y cyfrifoldeb am addysg uwch ei ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae gan Senedd a Llywodraeth y DU rymoedd arwyddocaol o hyd ynghylch Cymru, a dylanwad dros faterion yng Nghymru. Mae cyllid Cynghorau Ymchwil yn parhau’n fater ‘a gadwyd yn ôl’ gan Lywodraeth y DU. Mae gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau gyfrifoldebau am bolisi gwyddoniaeth y DU, Cynghorau Ymchwil y DU a’r Bwrdd Strategaeth Technoleg. Swyddfa Cymru yw’r prif endid yn Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am faterion Cymreig, o dan oruchwyliaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn un o bwyllgorau dethol adrannol Tŷ’r Cyffredin. Mae’n gyfrifol am archwilio materion y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gyfrifol amdanynt (gan gynnwys cysylltiadau gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru).
Mae Prifysgolion Cymru yn un o Gynghorau Cenedlaethol Universities UK (UUK). Cenhadaeth UUK yw bod yn llais diffyniadol ar gyfer prifysgolion yn y DU. Mae UUK yn cynnig arweinyddiaeth a chymorth o ansawdd uchel i’w aelodau, er mwyn hyrwyddo sector addysg uwch llwyddiannus ac amrywiol. Pedwar nod strategol UUK yw:
- Cyfrannu at a dylanwadu’r agenda ar gyfer sector prifysgolion yn y DU;
- Cefnogi prifysgolion yn eu prif nodau i addysgu myfyrwyr, cynnal ymchwil ac arloesi, a chryfhau’r gymdeithas ddinesig;
- Darparu gwasanaethau rhagorol i aelodau UUK ac i’r sector prifysgolion yn y DU yn gyffredinol;
- Bod yn sefydliad effeithiol ac effeithlon.
Yn Ewrop
Yn Ewrop, mae Prifysgolion Cymru Brwsel yn hyrwyddo buddiannau prifysgolion Cymru. Mae hefyd yn cefnogi’r sector i ymateb yn fwy effeithiol i flaenoriaethau Ewropeaidd, yn ogystal â hwyluso perthnasoedd cryfach rhwng prifysgolion Cymru, sefydliadau Ewropeaidd a phartneriaid rhanbarthol o’r Undeb Ewropeaidd.
Ledled y byd
Mae Uned Addysg Uwch Ryngwladol y DU yn cefnogi datblygiad a chynaliadwyedd dylanwad a chystadleurwydd sector addysg uwch y DU yn yr amgylchedd byd-eang. Mae gan Prifysgolion Cymru aelod penodedig o’r tîm yn yr Uned i gefnogi gweithgarwch rhyngwladol Cymru. Mae’r Uned yn darparu gwybodaeth marchnad, mae’n adeiladu capasiti i fanteisio ar gyfleoedd rhyngwladol, mae’n cynrychioli’r sector yn rhyngwladol, ac mae’n llunio polisi rhyngwladol.