Newyddion

Diwrnodau Ymchwil ac Arloesi Ewropeaidd

Yr wythnos diwethaf roedd Brwsel yn brysur gyda llunwyr polisi o brifysgolion, diwydiant, a’r gymuned entrepreneuraidd ar gyfer Diwrnodau Ymchwil ac Arloesi Ewropeaidd. Daeth dros 4,000 o bobl ynghyd i gymryd rhan mewn ystod eang o drafodaethau, seminarau a gweithdai dros dri diwrnod a oedd yn gyfle i weld llwyddiannau rhaglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020, yn ogystal ag edrych tua’r dyfodol at raglen newydd Horizon Europe. Roedd nifer o gynrychiolwyr o Gymru ym Mrwsel i gymryd rhan yn y trafodaethau gan gynnwys Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgolion Cymru a Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru. Traddodwyd y sylwadau i gloi’r digwyddiad gan yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe ac Is-Lywydd Cymdeithas Prifysgolion Ewrop, oedd yn canolbwyntio ar rôl allweddol prifysgolion yn y system ymchwil ac arloesi.

Roedd y digwyddiad tridiau’n gyfle i alluogi ymchwilwyr, busnesau a llunwyr polisi i helpu â llunio’r blaenoriaethau a’r cynllun strategol ar gyfer pedair blynedd gyntaf rhaglen ymchwil ac arloesi newydd y Comisiwn Ewropeaidd, Horizon Ewrop, a fydd yn cychwyn ym mis Ionawr 2021. Roedd sawl cainc i’r digwyddiad, gan gynnwys cynhadledd bolisi a oedd yn canolbwyntio ar ymchwil ac arloesi, Hyb Ewrop Arloesol a oedd yn darparu lle ar gyfer cyfarfod a llunio partneriaethau i fuddsoddwyr ac ymchwilwyr. Hefyd arddangosfa ‘Mae Gwyddoniaeth yn Wych’ oedd yn rhoi sylw i nifer o Weithgareddau Marie Sklodowska-Curie a phrosiectau ymchwil eraill a ariennir gan yr UE. Bydd y trafodaethau yn ystod y digwyddiad, ynghyd â’r adborth a gafwyd drwy’r ymgynghoriadau cyd-gynllunio, yn cyfrannu at y ‘Cynllun Strategol Horizon Europe (2021-24)’ cyntaf, a fydd yn amlinellu’r ysgogwyr polisi, y blaenoriaethau polisi a’r effeithiau a dargedir ar gyfer y rhaglen, yn ogystal â datblygu’r ‘Amcanion’ a’r Partneriaethau Ewropeaidd ymhellach.

O fewn cwmpas y gynhadledd bolisi roedd sesiynau ar yr ‘Amcanion’ newydd o fewn rhaglen Horizon Europe. Bydd yr ‘Amcanion’ yn sicrhau bod gwaith ymchwil ac arloesi’n canolbwyntio ar heriau allweddol sy’n wynebu’r byd, gan gynnwys cancr, newid hinsawdd, cefnforoedd iach, dinasoedd niwtral o ran yr hinsawdd; hefyd pridd a bwyd iach. Bwriadwyd y sesiynau hyn i fod yn sesiynau ‘cyd-greu’ gydag arbenigwyr a llunwyr polisi yn trafod sut y dylid bwrw ymlaen â’r meysydd hyn. Dylai Cymru fod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ddatblygiad yr Amcanion hyn, gyda sawl cynrychiolydd o Gymru yn cyfranogi.

Cafwyd sesiynau polisi ehangach hefyd ar flaenoriaethau a themâu Horizon Europe. Siaradodd Yr Athro Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd ar ‘Ddinasoedd bwyd cylchol’ ar ail ddiwrnod y digwyddiad. Mae’r Athro Sonnino yn Athro Polisi a Chynllunio Amgylcheddol yn Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd. Hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil yr Ysgol ar gyfer Systemau Bwyd Trefol a Rhanbarthol a Chyfarwyddwr Effaith ar gyfer yr Ysgol. Mae hi wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau ymchwil Ewropeaidd ac fe’i gwahoddwyd i fod yn aelod o Felin Drafod yr UE FIT4FOOD2030; bu hefyd yn Is-gadeirydd Grŵp Arbenigwyr BWYD 2030.

Yn ei sylwadau i gloi, tynnodd yr Athro Paul Boyle sylw at werth ymchwil wedi’i sbarduno gan chwilfrydedd, gan nodi pwysigrwydd integreiddio’r gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau mewn prosiectau. Pwysleisiodd fod prifysgolion wrth wraidd y triongl gwybodaeth – addysg, ymchwil ac arloesi – a bod rhyngweithio rhwng pwyntiau’r triongl yn bwysig iawn. Rhaid i raglen Horizon Europe fod yn agored i’r byd er mwyn iddi ddwyn ynghyd y gorau yn y byd, a rhaid i’r DU fod yn rhan o’r rhaglen.

 

Cyfranogodd cydweithwyr o Gymru hefyd mewn nifer o gyfarfodydd gyda sefydliadau ym Mrwsel ac ymwelwyr eraill â Brwsel. Gan fod Cymru wedi derbyn cyllid sylweddol o Gronfeydd Strwythurol a bod ansicrwydd ynghylch y sefyllfa o ran cyllido ar ôl Brexit yn y maes hwn, roedd cyfle hefyd am ddeialog â nifer o ranbarthau ledled Ewrop. Canolbwyntiodd y trafodaethau ar gynllunio rhanbarthol ar gyfer arian o’r Cronfeydd Strwythurol, cysylltiadau ag ymchwil ac arloesi a goblygiadau’r ffocws cynyddol ar y synergedd rhwng rhaglenni Ewropeaidd yng nghyfnod cyllideb nesaf yr UE.

Hefyd trafodwyd rôl Llwyfannau Technoleg Ewropeaidd fel modd o adeiladu ymgysylltiad Cymru mewn meysydd ymchwil allweddol. Mae’r llwyfannau hyn yn cynnig rhwydweithiau gwerthfawr ar draws ystod eang o feysydd sy’n dod â diwydiant ac ymchwil ynghyd gyda chyfleoedd i ymgysylltu â’r Comisiwn Ewropeaidd wrth ddatblygu’r galw a blaenoriaethau. Cafwyd trafodaethau eraill gyda Swyddfa Ymchwil y DU, rhwydwaith Gwyddoniaeth ac Arloesi’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi Rhanbarthau Ewrop (ERRIN) i gasglu gwybodaeth am yr agenda ymchwil ac arloesi strategol, cyfleoedd ar gyfer cydweithredu a mewnbwn gan brifysgolion Cymru i rwydweithiau a gweithgareddau.

Gellir rhagweld y bydd Diwrnodau Ymchwil ac Arloesi yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, gyda digwyddiad y flwyddyn nesaf o bosibl yn cael ei gynnal ym Merlin yn ystod Llywyddiaeth yr Almaen o’r Cyngor Ewropeaidd.

Wrth i Gymru symud ymlaen yn ei gwaith Ewropeaidd gyda Strategaeth Ryngwladol drafft Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag Ymchwil ac Arloesi: Y Weledigaeth ar gyfer Cymru CCAUC, y naill a’r llall yn gosod pwyslais cryf ar ymrwymiad i Ewrop, bydd yn bwysig i Gymru barhau i ymgysylltu â sefydliadau a rhaglenni Ewropeaidd. Rhoddodd y Diwrnodau Ymchwil ac Arloesi Ewropeaidd yn 2019 gyfle ar gyfer yr ymgysylltiad hwn, a bydd Diwrnodau Ymchwil ac Arloesi yn y dyfodol yn darparu cyfleoedd pellach y bydd angen i Gymru fanteisio arnynt.

Fel y nododd Kurt Vandenberghe, Cyfarwyddwr Datblygu Polisi a Chydlynu yng Nghyfarwyddiaeth Gyffredinol Ymchwil ac Arloesi’r Comisiwn Ewropeaidd, yn ystod Diwrnodau Ymchwil ac Arloesi

‘Rhaid i brifysgolion gael eu hystyried fel y buddsoddiad gorau y gallwn ei wneud gyda’n gilydd yn ein dyfodol’.