Newyddion

Ble nawr ar gyfer prentisiaethau gradd yng Nghymru?

Cyfrannodd Kieron Rees – Cynghorydd Polisi Prifysgolion Cymru, y blog hwn ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Click on Wales IWA.

 

Mae pobl yn aml yn sôn am y gwahaniaeth rhwng addysg academaidd a galwedigaethol, gydag astudiaethau academaidd yn cael eu hystyried yn fwy damcaniaethol ac yn gysylltiedig â phrifysgolion. O gymharu, mae astudiaethau galwedigaethol yn canolbwyntio mwy ar y swyddi sydd dan sylw ac yn gysylltiedig â dysgu yn y gweithle neu mewn darparwyr addysg bellach. Ond mae’r rhaniad hwn yn methu ag adlewyrchu’n gywir ehangder y ddarpariaeth ôl-16 yng Nghymru. Mae prifysgolion wedi darparu amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol a phroffesiynol ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys meddygaeth, peirianneg, y gyfraith a hyfforddiant athrawon.

Mae’r rhaniad canfyddedig hwn yn cael ei herio ymhellach yn sgil datblygu llwybrau newydd at radd sy’n seiliedig ar waith. Dechreuodd y prentisiaid cyntaf yng Nghymru ar y rhaglen brentisiaeth gradd newydd mewn digidol yn y flwyddyn academaidd hon. Mae tri llwybr yn perthyn i’r brentisiaeth ddigidol newydd – peirianneg meddalwedd, seiber-ddiogelwch a gwyddoniaeth data – a dyma’r gyntaf o brentisiaethau gradd newydd a ddatblygwyd yng Nghymru ac a gyflwynir gan brifysgolion. Bydd y brentisiaeth gradd hon yn cynnig cyfle i brentisiaid ennill BSc mewn cyfrifiadureg neu gyfwerth, dros gyfnod o 3-4 blynedd gan un o nifer o brifysgolion Cymru, tra’n gweithio’n llawn amser. Yn achos y rhan fwyaf o brentisiaid gradd, byddant yn treulio 80% o’u hamser yn y gwaith ac 20% o’u hamser yn astudio.

Mae gweithredu’r brentisiaeth gradd newydd hon yn gam arwyddocaol i Gymru, ac o 2019/20 ymlaen, bydd prifysgolion yng Nghymru hefyd yn gallu cynnig prentisiaethau gradd mewn peirianneg ac uwch-gynhyrchu. Bydd cynnig llwybr at radd yn seiliedig ar waith yn mynd yn bwysicach fyth wrth i boblogaeth Cymru barhau, ar y cyfan, i heneiddio, ac wrth i anghenion sgiliau’r gweithle yng Nghymru barhau i newid yng ngoleuni datblygiadau technolegol.

Ond hyd yn oed wrth i ni ddechrau gweithredu’r brentisiaeth gradd hon, rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r galw am ystod ehangach o bynciau, yr angen i Gymru allu cynnig prentisiaethau gradd a’r gweithgaredd sy’n digwydd ledled gweddill y DU.

Mae Alban a Lloegr wedi gweithredu eu hymagweddau eu hunain tuag at brentisiaethau gradd yn y pedair blynedd diwethaf. Yn Lloegr ar hyn o bryd mae dros 70 o safonau prentisiaeth gradd wedi’u cymeradwyo yn barod i’w cyflwyno, gan gynnwys rhai ar lefel 6 (lefel baglor) a lefel 7 (lefel meistr), gyda 60 o safonau pellach yn cael eu datblygu. Mae’r prentisiaethau hyn mewn meysydd megis cyfrifiadureg, peirianneg, rheolaeth, plismona, pensaernïaeth, cyfrifeg a nyrsio. Hyd yma yn 2018/19 dechreuodd 6,299 o bobl ar brentisiaethau gradd yn Lloegr gyda 20% o’r rhain ar lefel 7, ac mae adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Dethol ar Addysg wedi argymell y dylai Llywodraeth y DU wneud ehangu prentisiaethau gradd yn flaenoriaeth strategol.

Yn yr Alban, mae prentisiaethau gradd wedi bodoli ers 2017 ac maent bellach ar gael ar gyfer meysydd megis rheolaeth busnes, gwasanaethau ariannol, adeiladu, peirianneg a TG. Disgwylir y bydd 887 o bobl yn dechrau ar brentisiaethau gradd yn 2018/19.

Mae’r ymagweddiad a gymerwyd yng Nghymru wedi bod, mewn sawl ffordd, yn un gadarnhaol. Rydym o bosib wedi osgoi rhai o’r heriau sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil rhai o’r newidiadau mwy sylweddol yn y system brentisiaethau yn Lloegr. A thrwy ariannu prentisiaethau gradd drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gallwn fod yn sicr y bydd prentisiaethau gradd yn amodol ar yr un sicrwydd ansawdd â mathau eraill o ddarpariaeth addysg uwch. Os yw cyflogwr yng Nghymru am gynnig prentisiaeth gradd mewn digidol, gallant wneud hynny mewn modd syml drwy bartneriaeth â phrifysgol, ac nid oes rhaid iddynt fynd drwy’r broses o gael mynediad at arian ardoll na’i drosglwyddo

Ond gyda’r ddarpariaeth yn cyflymu mewn rhannau eraill o’r DU, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y galw y mae prifysgolion yn ei wynebu gan y cyflogwyr maent yn gweithio gyda nhw. Mae ehangder y ddarpariaeth a gynigir mewn mannau eraill yn y DU, ynghyd â’r gallu i gyflwyno prentisiaethau gradd ar lefel 6 a 7, yn golygu na all cyflogwyr sy’n gweithio ledled y DU gynnig yr un cyfleoedd i staff yng Nghymru ddysgu sgiliau newydd neu wella’r sgiliau sydd ganddynt eisoes a fyddai ar gael iddynt mewn rhannau eraill o’r wlad.

Ac, yn bwysicaf oll, os ydym am gynnig y cyfle i bobl yng Nghymru sydd eisoes wedi cwblhau prentisiaeth lefel uwch i symud ymlaen i brentisiaeth lefel gradd, yna bydd yn rhaid i ni edrych ar ba brentisiaethau lefel uwch sy’n cael eu hastudio ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 87% o brentisiaethau lefel uwch ym meysydd gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus, a rheolaeth a busnes. Golyga hyn, yn achos y rhan fwyaf o brentisiaid lefel uwch, nad oes llwybr dilyniant clir ar sail gwaith yn arwain at brentisiaeth lefel gradd.

Gydag unrhyw fath o ddarpariaeth newydd, mae manteision yn perthyn i ystyried y sefyllfa’n ofalus a sicrhau bod y ddarpariaeth honno’n cael ei chynllunio mewn ffordd sy’n gweithio i’r Llywodraeth, darparwyr ac, yn bwysicaf oll, y dysgwyr. Ond mae yna gryn awydd am brentisiaethau gradd ledled y DU, gan unigolion a chyflogwyr. Mae’r galw hwn, ynghyd ag ansawdd y ddarpariaeth sydd eisoes yn cael ei chynnig gan brifysgolion mewn ymateb i feysydd a flaenoriaethwyd gan Lywodraeth Cymru, yn golygu mai nawr yw’r amser i ystyried pa fuddion cymdeithasol ac economaidd allai ddod yn sgil prentisiaethau gradd mewn meysydd eraill o’r sector ac ar lefel 7 . Byddai gwneud hynny yn galluogi pobl gydol eu bywydau, o bob cefndir, i allu manteisio ar y mathau o sgiliau lefel uwch a fydd yn dod yn fwyfwy pwysig yn y degawdau nesaf.