Astudiaeth achos

Nôl i bynciau     Nôl i brifysgolion

meds

Cynhyrchu’r dystiolaeth i gefnogi polisïau ar feddyginiaethau newydd

Gwaith ymchwil yn dangos nid yw’r cyhoedd yn cefnogi cyllid ffafriol ar gyfer triniaeth canser

Meddyginiaethau rhagnodiad yw’r ymyriad gofal iechyd mwyaf cyffredin yn y GIG, ac maent yn costio £14bn y flwyddyn. Mae Prifysgol Bangor yn arwain ar ddatblygu polisïau seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer penderfynu sut ddylai’r GIG ddyrannu adnoddau ar gyfer meddyginiaethau newydd. Un enghraifft o’r fath yw’r Gronfa Cyffuriau Cancr, sydd yn Lloegr yn clustnodi £280m y flwyddyn ar gyfer cyffuriau cancr na chawsant eu cymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal Iechyd. Fodd bynnag, dangosodd astudiaethau a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor nad yw’r cyhoedd yn cefnogi rhoi blaenoriaeth ariannol i gancr – mae’r mwyafrif eisiau gweld adnoddau’n cael eu rhannu’n gyfartal rhwng triniaethau cancr a thriniaethau eraill – ac nid ar gyfer triniaethau (ar gyfer cancr fel arfer) sy’n ymestyn oes, ar ddiwedd oes. Wrth gyfeirio at ein gwaith, dywedodd y cyn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru:

“Mae’r ymchwil hwn yn dangos yn glir fod y cyhoedd yn cefnogi ein ffordd seiliedig ar dystiolaeth o ddarparu gofal rhagorol o ansawdd uchel i gleifion cancr yng Nghymru. Dyna pam rydym wedi gwrthod y syniad o Gronfa Cyffuriau Cancr yng Nghymru.”

Cyfeiriwyd at ymchwil Bangor hefyd gan Ysgrifennydd Cabinet Yr Alban ar gyfer Iechyd & Lles yn ystod trafodaeth seneddol a arweiniodd Llywodraeth Yr Alban i’r casgliad:

“nad sefydlu cronfa cyffuriau cancr yn Yr Alban yw’r ateb”