Gall gwella’r offer cyfrifiadurol a ddefnyddir mewn gofal iechyd leihau marwolaethau y gellir eu hosgoi
Mae ymchwil i’r camgymeriadau y mae clinigwyr yn eu gwneud wrth ddefnyddio offer meddygol cyfrifiadurol, a dadansoddiad o’r dyfeisiau cyfrifiadurol eu hunain, wedi dangos y gellid atal llawer o’r marwolaethau a’r niwed trwy wella damcaniaethau, hyfforddiant a dylunio. Canfu’r tîm o Brifysgol Abertawe oedd yn edrych ar Ryngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI) y gellir lleihau’r drwg a wneir i gleifion trwy wneud systemau yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan gamgymeriadau pobl.
O dan arweiniad yr Athro Thimbleby a chydag arian gan yr EPSRC, mae gwaith y tîm yn dangos fod tua 10% o farwolaethau oherwydd camgymeriadau y gellid eu hosgoi mewn ysbytai yn debyg o fod yn gamgymeriadau cyfrifiadurol, ac amcangyfrifir fod y cymhlethdodau sy’n dilyn a’r arosiadau ysbyty ychwanegol yn costio dros £600M y flwyddyn i’r GIG. Un enghraifft o effaith ymchwil y tîm yw teclyn a ddatblygwyd ganddynt all ddod o hyd i a helpu gwaredu rhai rhesymau dros wneud camgymeriadau wrth ddosio cyffuriau.
Mae’r ymchwil wedi denu sylw gwneuthurwyr penderfyniadau, clinigwyr, gweithgynhyrchwyr a rheoleiddwyr rhyngwladol, ac mae un ohonynt, y brif Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yn yr Unol Daleithiau, wrthi’n treialu eu teclyn ac yn cyd-awduro papurau gyda’r tîm.
“Cyflwynais sesiwn mewn cynhadledd risg glinigol yn Llundain ddoe a defnyddiais [eich fideo] a chafodd dderbyniad gwych…Cefais adborth rhagorol ac rwyf wedi cael ceisiadau gan bobl eraill yn barod.” Rheolwr Dyfeisiau, Bwrdd Iechyd GIG