Astudiaeth achos

Nôl i bynciau     Nôl i brifysgolion

ss gb

Achub gwaith haearn hanesyddol rhag difrod rhwd

Astudiaeth arbrofol sy’n penderfynu cyfradd cyrydu haearn

Mae’r rhan fwyaf o amgueddfeydd yng ngwledydd Prydain yn cadw gwrthrychau haearn archaeolegol a threftadaeth wedi’u rheibio gan glorid, sy’n rhydu oherwydd diffyg strategaethau cadwraeth yn seiliedig ar dystiolaeth. Amcangyfrifwyd fod gan long haearn ac atyniad ymwelwyr Brunel, ss Great Britain, ddau ddegawd yn weddill cyn i rwd ei gwneud yn gorfforol anghynaliadwy.

Newidiodd y sefyllfa hon oherwydd ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, dan arweiniad yr Athro David Watkinson, a ddarparodd y dystiolaeth angenrheidiol i allu mabwysiadu cyfleusterau storio dysychedig ar gyfer rheoli haearn yn cynnwys clorid rhag rhydu. Defnyddiwyd astudiaethau arbrofol i weld pa mor gyflym yr oedd yr haearn hwn yn rhydu mewn lleithder isel. Defnyddiwyd y canlyniadau i benderfynu pa mor sych ddylai’r atmosffer o gwmpas cragen yr ss Great Britain fod er mwyn ei atal rhag rhydu a pha mor gyflym y byddai’n rhydu pe bai’r awyr o’i gwmpas yn mynd yn fwy llaith. Mae hyn yn sicrhau bod rheoli cadwraeth ddysychedig prif atyniad ymwelwyr dinas Bryste yn broses wybodus.

Mae’r data hefyd wedi cynhyrchu canllawiau storio ar gyfer haearn archaeolegol a threftadaeth. Cawsant eu mabwysiadu gan English Heritage, yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Llundain.

“…darn o gadwraeth gwirioneddol arloesol…sy’n gwneud y llong…yn hygyrch ac yn ennyn diddordeb pobl o bob oed.” Athro Arglwydd Robert Winston

Mwy o wybodaeth