Cynlluniau prifysgolion ar gyfer tymor yr hydref
Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws, addasodd prifysgolion yn gyflym ym mis Mawrth, gan newid y ffordd roeddent yn darparu eu gwasanaethau addysgu a gwasanaethau eraill yn sylweddol, wrth roi cymorth i staff a myfyrwyr.
Wrth i dymor yr hydref agosáu, mae prifysgolion yng Nghymru’n cydweithredu fel sector i sicrhau y gall myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd fwynhau profiad addysgol diogel, atyniadol ac o ansawdd uchel.
Dod allan o’r cyfnod cloi
Mae Prifysgolion y DU wedi cyhoeddi, mewn cydweithrediad â darparwyr yng Nghymru, set o egwyddorion lefel uchel a gwybodaeth ategol i brifysgolion ei hystyried wrth iddynt ddod allan o’r cyfnod cloi, gan ddarparu fframwaith i brifysgolion unigol wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau, gan ddibynnu ar eu lleoliadau a’u sefyllfaoedd.
Mae llesiant myfyrwyr a staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i brifysgolion, a bydd y sector bob amser yn cydymffurfio â chyngor iechyd cyhoeddus, gan gymryd pob mesur posibl i sicrhau bod cymuned y brifysgol yn gwybod beth sy’n digwydd, eu bod yn cael cefnogaeth ac yn teimlo’n ddiogel.
Profiad y myfyriwr
Canfu arolwg diweddar gan Brifysgolion y DU y bydd holl brifysgolion Cymru yn cynnig addysgu wyneb-yn-wyneb y tymor nesaf. Ar sail y rhagdybiaeth y bydd llawer o’r cyngor iechyd cyhoeddus cyfredol yn dal i fod mewn grym yr hydref hwn, mae prifysgolion yn bwriadu darparu dull cyfunol ar gyfer myfyrwyr.
Mae hynny’n golygu cymaint o addysgu, dysgu a chymorth wyneb-yn-wyneb / ar y campws â phosibl, gyda’r rhannau hynny o’r profiad prifysgol a fydd yn anodd eu cyflwyno (fel darlithoedd mawr) ar gael i fyfyrwyr mewn ffordd ryngweithiol ac atyniadol ar-lein.
Mae prifysgolion hefyd yn ystyried amryw o weithgareddau i roi’r profiad cymdeithasol i fyfyrwyr sy’n rhan mor bwysig o fywyd prifysgol, a gall myfyrwyr ddisgwyl ystod lawn o gefnogaeth – gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, cyngor gyrfaoedd, a sgiliau astudio.
Mae prifysgolion yn cyfathrebu’n rheolaidd â myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl yn y flwyddyn academaidd newydd, ac maen nhw’n parhau i weithio’n agos gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth yn parhau i fod o’r ansawdd uchaf.
Ewch i’n tudalen dolenni defnyddiol i gael y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar Coronafeirws.