Astudiaethau achos – prifysgolion yn cynorthwyo’r ymateb cenedlaethol
Mae prifysgolion ledled Cymru yn darparu adnoddau, offer ac arbenigedd i gynnig cymorth i’r GIG a chymunedau lleol yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Detholiad yn unig yw hwn o’r gwaith pwysig sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan brifysgolion yng Nghymru:
Offer meddygol, cyfleusterau ac adnoddau
- Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi sefydlu Canolfan Waed ar eu campws yn Llandaf mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwaed Cymru ac wedi benthyca dau beiriant platfform Thermo Fisher 7500 ABI Fast i gynorthwyo â gwell profion ar gyfer COVID-19.
- Mae ystafelloedd hyfforddi sgiliau clinigol ar gampws Prifysgol Abertawe, yn ogystal â’r labordy sgiliau clinigol yn Ysbyty Treforys, wedi’u rhyddhau at ddefnydd y GIG. Yn ogystal, mae cyfleusterau 3D yn y Brifysgol yn cael eu defnyddio i argraffu rhannau awyrydd, tra bod myfyrwyr bydwreigiaeth a pharafeddygaeth yn mynd ati i gynorthwyo cydweithwyr rheng flaen y GIG yn y frwydr yn erbyn y pandemig Coronafeirws.
- Mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol y Drindod Dewi Sant (ATiC) a Chanolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol Cymru yn cyfrannu at brosiectau sy’n darparu cymorth ar gyfer ymateb GIG Cymru i COVID-19. Mae hyn yn cynnwys datblygu masg awyru anfewnwthiol a chreu peiriant anadlu brys ar gyfer y pandemig, y gellir ei gynhyrchu’n lleol.
- Mae Prifysgol Bangor wedi sicrhau bod cyfleusterau ar gael ar gyfer rhoi gwaed ac offer labordy arbenigol ar gyfer dadansoddi samplau.
- Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd yn darparu lle yn eu hadeiladau i fyrddau iechyd lleol er mwyn cynyddu eu gallu i drin achosion brys. Mae adeilad ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd wedi’i drawsnewid yn ganolfan sgrinio gweithwyr allweddol ac ardal glinigol at ddefnydd meddygon teulu lleol.
- Mewn ymgynghoriad â GIG Cymru, mae Prifysgol Caerdydd yn gosod myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd sydd yn eu blwyddyn olaf ar lwybr carlam, er mwyn iddyn nhw fod ar gael i gynorthwyo timau rheng flaen y GIG, ac mae 300 o fyfyrwyr meddygaeth Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 wedi cofrestru ar gyfer ‘banc gwirfoddoli’ i gefnogi’r GIG.
- Mae staff peirianneg ym Mhrifysgol De Cymru yn dylunio a chynhyrchu fisorau i ddiogelu gweithwyr iechyd rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19, gan ddefnyddio dulliau argraffu 3D a thorri â laser.
- Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru i gyd wedi rhoi Offer Amddiffyniad Personol, fel ffedogau, masgiau a gogls, i’w defnyddio gan staff rheng flaen y GIG.
Hyfforddiant, ymchwil ac arbenigedd
- Datblygwyd prawf cyflym ar gyfer canfod COVID-19 gan wyddonwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r tîm hefyd wedi creu dyfais gludadwy a all gynhyrchu canlyniad cywir mewn 20-30 munud heb orfod anfon sampl i’r labordy. Mae’r prawf a’r ddyfais eisoes yn cael eu gwerthuso gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a gallent fod ar gael i’w defnyddio yng nghartrefi gofal yr ardal o fewn wythnosau.
- Mae staff o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Bangor yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu hyfforddiant gofal critigol i staff y GIG. Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi / adnewyddu sgiliau i staff sy’n cael eu drafftio’n ôl i’r gwasanaeth iechyd.
- Mae Prifysgol Caerdydd yn un o nifer o sefydliadau academaidd sy’n cefnogi consortiwm dilyniannu genomau newydd i fapio lledaeniad COVID-19. Drwy edrych ar y genom firws cyfan mewn pobl sydd wedi eu cadarnhau fel achosion o COVID-19, gall gwyddonwyr fonitro newidiadau yn y feirws ar raddfa genedlaethol, er mwyn deall sut mae’r feirws yn lledaenu ac a oes gwahanol fathau yn dod i’r amlwg.
- Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu system arloesol i lanhau’n gyflym yr ambiwlansys a ddefnyddir i gludo cleifion sydd â Coronafirws. Mae’n bosib y bydd y system yn cael ei defnyddio ar y rheng flaen o fewn misoedd, a gallai gael ei defnyddio yn y pen draw i ddiheintio ysbytai, bysiau a threnau.
- Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn ymuno â’r frwydr fyd-eang yn erbyn y pandemig presennol, drwy gyfuno eu harbenigedd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro lefelau’r feirws mewn dŵr gwastraff.
- Mae ymchwilwyr yn Ysgol Dechnolegau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ymchwilio i sut mae #COVID-19 yn lledaenu. Mae’r tîm yn defnyddio data tywydd, er enghraifft, o 6 gwlad mewn ymgais i fodelu a rhagweld lledaeniad y feirws yn y dyfodol.
- Mae Prifysgol Cymru y Drindod Saint David yn darparu cyngor a chefnogaeth barhaus i fusnesau sy’n ymwneud ag ystod eang o brosiectau gofal iechyd drwy brosiect Gweithgynhyrchu Peirianneg Dylunio Uwch ac ATiC
- Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithio gyda Gwasanaeth Ysgolion Cyngor Caerdydd i ddynodi adnoddau a all helpu athrawon i roi cymorth i ddysgwyr gartref ar-lein. Mae’r Brifysgol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu e-ddysgu newydd i weithwyr sydd wedi’u rhyddhau o’u gwaith o ganlyniad i COVID-19.
- Mae grŵp o 30 o fyfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi creu rhaglen adnoddau addysgu-gartref wythnosol am ddim i rieni, ac mae cangen iechyd a ffitrwydd y Brifysgol, Met Active, ynghyd â’r tîm chwaraeon proffesiynol, wedi bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i symud, gyda fideos dyddiol a thiwtorialau ymarfer corff ar gyfer pob lefel gallu.
- Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi creu modiwl ar-lein am ddim o’r enw ‘Y Dysgwr Hyderus’ i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer bywyd yn y Brifysgol ar ôl colli eu tymor olaf yn yr ysgol neu’r coleg. Mae’r Brifysgol hefyd wedi ymuno â busnesau o bob rhan o’r DU gan addo helpu Prydain a’i dinasyddion mwyaf agored i niwed i oroesi’r argyfwng coronafeirws. Mae ymhlith prifysgolion, busnesau a sefydliadau eraill ledled y DU sy’n rhoi eu cefnogaeth y tu ôl i Addewid Busnes C-19, menter a lansiwyd gan gyn-weinidog y Cabinet, y Gwir Anrhydeddus Justine Greening, a’r entrepreneur David Harrison.
- Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi sefydlu grŵp cymorth ar Facebook i helpu i fynd i’r afael â theimladau o unigrwydd ymysg pobl sy’n hunan-ynysu.
- Bydd y Brifysgol Agored yn mynd ati i hyrwyddo adnoddau OpenLearn am ddim cyn bo hir, gan gynnwys deunyddiau OpenLearn dwyieithog yng Nghymru. Mae’r rhain yn adnoddau addysgol agored, am ddim, sy’n darparu mwy na 12,000 awr o ddeunydd astudio ar-lein. Mae OpenLearn hefyd wedi dwyn ynghyd ystod o ddeunydd sy’n ymwneud yn benodol â Coronafeirws a sut i ymdopi yn ystod y cyfnod heriol hwn.
- Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio canolfan alwadau rithwir lle mae mwy na 120 o staff wedi gwirfoddoli i gadw llygad ar fyfyrwyr sy’n aros yng Nghaerdydd, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
- Mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim i ymarferwyr rheng flaen ledled y Deyrnas Unedig sy’n delio ag achosion o gam-drin domestig ymhlith pobl hŷn yn ystod y cyfnod hwn lle mae rhaid i bawb aros gartref.
Llety a gwasanaethau
- Mae myfyrwyr Meddygaeth ar y cwrs Graddedigion ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig gofal plant brys i staff y GIG, a fydd yn caniatáu iddynt barhau i gynnig gofal rheng flaen.
- Mae staff y GIG yn cael cynnig llety yn rhai o neuaddau preswyl Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor, ac mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi bod mewn cysylltiad ag Ysbyty Maelor ynghylch anghenion llety tymor byr posibl ar gyfer gweithwyr allweddol.
Rydym yn parhau i gasglu enghreifftiau o’r gwaith cenhadol dinesig gwerthfawr sy’n cael ei wneud gan brifysgolion Cymru mewn ymateb i COVID-19, a byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth yma ar gael ar y dudalen hon.