Darpariaeth yn y Gymraeg ar gyfer yr 21ain ganrif…

Ers blynyddoedd lawer, mae sefydlu cynaliadwyedd y Gymraeg yn y byd academaidd i’r dyfodol wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru fel ei gilydd, ac roedd lansio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gam hanesyddol tuag at wireddu’r dyhead hwn.

Yn benllanw llawer o waith caled a chydweithredu rhwng Prifysgolion Cymru, sefydliadau addysg uwch Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cynnwys Cyngor Cyllido Prifysgolion Cymru, cenhadaeth greiddiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r egwyddor syml ond grymus fod gan bob myfyriwr yng Nghymru hawl i addysg uwch o’r radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae llawer wedi digwydd dros y 12 mis diwethaf. Yn ystod yr haf lansiodd y Coleg Cymraeg Dystysgrif Sgiliau Cymraeg a fydd, am y tro cyntaf, yn sefydlu ffordd gyffredin a chydnabyddedig o ddangos sgiliau iaith myfyrwyr. Bydd y Dystysgrif yn galluogi myfyrwyr i roi tystiolaeth i gyflogwyr eu bod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac ar bapur. Mae cyflwyno’r Dystysgrif yn gam mawr ymlaen gan y bydd yn rhoi sicrwydd a hyder i gyflogwyr fod myfyrwyr sy’n meddu ar y Dystysgrif hon yn gymwys i weithio’n ddwyieithog.

Bydd y Dystysgrif yn galluogi myfyrwyr i roi tystiolaeth i gyflogwyr eu bod yn gallu cyfathrebu’n hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac ar bapur..

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn 2012, lansiodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyhoeddiad newydd gan yr Athro R Gwynedd Parry – Cymru’r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol. Nid yn unig dyma’r tro cyntaf mewn rhyw ddeng mlynedd ar hugain i gyfrol academaidd Gymraeg ar y gyfraith gael ei chyhoeddi, ond dyma hefyd y gyfrol academaidd gyntaf i gael ei chyhoeddi yn sgîl grant gan y Coleg. Mae hwn yn gam cyntaf pwysig – wrth i’r Coleg baratoi cynllun pwnc newydd ar gyfer y gyfraith, bydd yn parhau i weithio i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i gyhoeddiadau tebyg er mwyn hyrwyddo dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Er enghraifft, mae wedi ymrwymo i weithio tuag at adfer lle Athroniaeth fel maes pwnc Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru, ac fel arwydd o’r ymrwymiad hwnnw sefydlwyd partneriaeth ffurfiol gydag adran athroniaeth Urdd y Graddedigion.

Bydd canghennau’r Coleg ar draws Cymru yn allweddol i drefniadaeth cyfrwng Cymraeg prifysgolion, gan ddod â staff dysgu, myfyrwyr a chynrychiolwyr eraill at ei gilydd i drafod ac ystyried materion cyfrwng Cymraeg yn sefydliadol ac yn genedlaethol.

Ym mis Medi 2012 cafwyd carreg filltir arall pan lansiodd y Coleg ei gynllun academaidd – y tro cyntaf i unrhyw gorff addysg uwch fynd ati i gynllunio darpariaeth Gymraeg ar lefel genedlaethol.

Wrth sicrhau mwy o gyfleon astudio a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, a gyda’r ymrwymiad i benodi dros 120 o ddarlithwyr newydd erbyn 2016, mae’r Cynllun Academaidd yn amlinellu datblygiad llwybrau astudio, modiwlau ac adnoddau rhagorol a fydd yn allweddol i’w lwyddiant.

Mae Bwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydnabod pedair thema allweddol sy’n hanfodol i gynllunio’r ddarpariaeth:

  • addysgu blaengar o’r safon uchaf
  • cynaliadwyedd
  • cyflogadwyedd a chymdeithas
  • partneriaeth â myfyrwyr

Cynllun uchelgeisiol a hanesyddol yw hwn, ac os caiff ei weithredu’n llawn bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, drwy bob prifysgol yng Nghymru, wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn at wireddu dyhead Llywodraeth Cymru i greu Cymru ddwyieithog hyderus.