Preifatrwydd a Chwcis
Os ydych yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon rydych yn cytuno i gydymffurfio ag amodau a thelerau ei defnyddio a bod yn gaeth iddynt, sydd, ynghyd â’n datganiad preifatrwydd, yn llywodraethu perthynas Addysg Uwch Cymru gyda chi o ran y wefan hon.
1. Cyflwyniad
Mae eich preifatrwydd yn bwysig inni. Mae Addysg Uwch Cymru (AUC) yn ymrwymedig i ddiogelu’r wybodaeth bersonol a rowch inni ac i ddiogelu eich preifatrwydd. Pwrpas y datganiad preifatrwydd hwn yw eich helpu i ddeall sut mae AUC yn defnyddio gwybodaeth bersonol a gasglwyd trwy’r wefan hon. Trwy gyflwyno eich gwybodaeth bersonol i’r wefan hon, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a deall datganiad preifatrwydd AUC ac y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a ddisgrifir ynddo. Mae AUC yn cadw’r hawl i addasu neu ddiweddaru’r datganiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg heb roi rhybudd ymlaen llaw. Bydd unrhyw newidiadau yn berthnasol i’r holl wybodaeth a gesglir gan AUC, gan gynnwys gwybodaeth a gasglwyd yn barod.
2. Y wybodaeth a gasglwn
Nid oes rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol er mwyn pori’r wefan hon. Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch pan danysgrifiwch i dderbyn gwasanaethau ar ein gwefan sy’n gofyn ichi roi eich manylion personol er mwyn creu enw defnyddiwr a chyfrinair. Defnyddir eich gwybodaeth bersonol i’n galluogi i wirio eich bod yn danysgrifiwr ac i ddarparu’r gwasanaethau ar-lein ar eich cyfer.
Yn ogystal â’ch gwybodaeth bersonol, pan ddefnyddiwch ein gwefan, efallai y casglwn wybodaeth tracio fel y math o borydd sydd gennych, y math o system weithredu a ddefnyddiwch, enw eich darparydd gwasanaethau rhyngrwyd a pha dudalennau y buoch yn edrych arnynt ar y wefan.
Mae AUC yn cael y wybodaeth hon trwy ddefnyddio technolegau, gan gynnwys cwcis, er mwyn gwneud ein gwefan yn fwy effeithiol a hwylus i’w defnyddio ac er mwyn teilwra ein gwefan yn well i’ch anghenion. Er enghraifft, efallai y byddwn eisiau gwybod faint o amser mae’r ymwelydd cyfartalog yn ei dreulio ar ein gwefan neu pa dudalennau sy’n cael y sylw mwyaf. Ni fydd gwybodaeth o’r fath ond yn cael ei defnyddio yn ei chrynswth ac nid yw’n eich enwi chi’n bersonol.
3. Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio
Rydym yn casglu gwybodaeth am yr ymwelwyr â’n gwefan am amrywiol resymau, gan gynnwys ymateb i’ch ymholiadau yn fwy effeithlon trwy’r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth yn ei chrynswth (ni ellir adnabod eich manylion unigol) er mwyn archwilio’r defnydd o’r wefan.
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a rowch inni yn cael ei storio fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy personol ichi. Ni fyddwn ond yn defnyddio’r data hwn i’ch adnabod.
Bydd gwybodaeth a rowch inni ynghylch darparu cynnyrch neu wasanaeth, neu gais am swydd, yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data.
4. Sut rydym yn rhannu gwybodaeth gyda thrydydd partïon
Nid yw AUC yn gwerthu na throsglwyddo eich gwybodaeth bersonol i eraill.
5. Defnyddio cwcis
Pan ymwelwch â’n gwefan, efallai y byddwn yn storio peth gwybodaeth ar eich cyfrifiadur. Bydd y wybodaeth hon ar ffurf ‘cwci’ neu ffeil debyg a gall ein helpu mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, mae cwcis yn caniatáu inni deilwra gwefan fel ei bod yn fwy perthnasol i’ch diddordebau a’ch dewisiadau. Gyda’r rhan fwyaf o borwyr rhyngrwyd, gallwch ddileu cwcis o yriant caled eich cyfrifiadur, blocio pob cwci neu dderbyn rhybudd cyn i gwci gael ei storio.
Cynhyrchydd |
Enw |
Pwrpas |
Daw i ben |
Google Analytics | __utma | Fe’i defnyddir i adnabod ymwelwyr unigryw â’n gwefannau. Danfonir y canlyniadau i’n cyfrif Google Analytics er mwyn inni allu gweld faint o ymwelwyr. | 2 flynedd |
Google Analytics | __utmb | Fe’i defnyddir i bennu hyd ymweliadau ar ein gwefannau. Bob tro yr ewch i dudalen newydd ar y wefan gosodir y cwci i ddiweddu o fewn 30 munud. Os nad yw’n dod o hyd i cwci sy’n bod yn barod, bydd un newydd yn cael ei greu. | 30 munud |
Google Analytics | __utmc | Fe’i defnyddir ar yr un pryd ag __utmb i bennu hyd ymweliadau â’r wefan. Yn wahanol i __utmb nid oes dyddiad diweddu ar y cwci hwn. Mae’n penderfynu a ddylid creu sesiwn newydd trwy weld a ydych wedi cau eich porydd cyn hynny, ei ail-agor ac wedi dod yn ôl i’r wefan. | Pan gaewch eich porydd |
Google Analytics | __utmz | Fe’i defnyddir i bennu’r math o atgyfeiriad a ddefnyddiwyd gan bob ymwelydd er mwyn cyrraedd ein gwefan. Mae’r cwci’n penderfynu a ddaeth y defnyddiwr yn syth i’r wefan neu trwy beiriant chwilio neu ymgyrch e-bost. Defnyddiwn y data hwn i ddeall sut mae ein defnyddwyr yn cyrraedd y wefan. | 6 mis |
You Tube | VISITOR_INFO1_LIVE | Fe’i defnyddir i storio dewisiadau defnyddwyr wrth wylio tudalennau ag ynddynt gynnwys fideo. | 8 mis |
YouTube | GEO | Fe’i defnyddir i storio dewisiadau defnyddwyr wrth wylio tudalennau ag ynddynt gynnwys fideo. | Pan gaewch eich porydd |
Policy Review TV | PHPSESSID | Fe’i defnyddir i storio dewisiadau defnyddwyr wrth wylio tudalennau ag ynddynt gynnwys fideo Adolygu Polisi Teledu. | Pan gaewch eich porydd |
Google maps | PREF | Fe’i defnyddir i storio dewisiadau a gwybodaeth defnyddwyr wrth wylio tudalennau yn cynnwys mapiau Google. | 2 flynedd |
Blog AUC | comment_author, comment_author_email, comment_author_url __qca |
Pan ddanfonwch sylw i’n blog caiff cwci ei greu i arbed ichi orfod mewngofnodi eto pan ydych eisiau danfon sylw arall. Gallwch felly weld y sylwadau sy’n aros i gael eu cymedroli. Mae’r tri cwci yma yn storio’r wybodaeth hon. | 1 flwyddyn |
Blog AUC | subscribe_checkbox | Mae’n storio eich dewisiadau o ran a ydych eisiau cael gwybod am unrhyw sylwadau eraill ar yr erthygl. | 1 flwyddyn |
_twitter_sess, guest_id, k, pid | Fe’i defnyddir ar bostiadau blog AUC sy’n cynnwys botwm ‘rhannwch hwn ar Twitter’. | Pan gaewch eich porydd 1 mis 1 wythnos |
|
AddThis | __atuvc, uid, uvc, di | Fe’i defnyddir i gyfrif rhaniadau ar ôl cyflwyno erthygl, ac mae’n tracio nifer y darllenwyr sy’n cofrestru ar y gwasanaeth AddThis, a ddefnyddir gan AddThis i fesur amlder ymweliadau gan y defnyddiwr, a rheoli diwedd oes Cwcis AddThis eraill. | 2 flynedd |
AddThis | psc, loc | Mae’n cofnodi defnyddwyr yn rhannu, ac yn defnyddio geoleoliad i ddangos ble mae defnyddwyr yn rhannu cysylltiadau. | 90 diwrnod |
AddThis | dt | Mae’n rheoli diwedd oes Cwcis AddThis eraill. | 1 mis |
AddThis | uit | Mae’n tracio mewngofnodiadau defnyddwyr ar AddThis | 1 diwrnod |
Sut i wrthod neu ddileu’r cwcis hyn
Mae mwy o wybodaeth ar sut i atal cwcis rhag cael eu storio ar eich cyfrifiadur i’w gweld yn http://www.allaboutcookies.org yn yr adran ‘rheoli cwcis’.
6. Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn inni ar unrhyw adeg i beidio cysylltu â chi, neu i newid eich dewis ddulliau cysylltu at ddibenion marchnata.
Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch (y gallwn godi tâl bach amdano) ac i gael unrhyw beth sy’n anghywir yn eich gwybodaeth wedi’i gywiro.
7. Diogelu eich data personol
Rydym yn ymrwymedig i gadw eich gwybodaeth mor ddiogel ag y bo modd. Rydym hefyd yn defnyddio dulliau ychwanegol i ddiogelu gwybodaeth sensitif am eich gweithgareddau gyda ni. Mae’n rhaid i bawb sy’n gweithio i AUC ddilyn trefniadau cyfrinachedd a safonau preifatrwydd llym.
8. Cysylltiadau
Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill nad ydynt yn cael eu rheoli gan UUK. Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i www.hew.ac.uk.
9. Tynnu eich caniatâd yn ôl
Gallwch, ar unrhyw adeg, dynnu yn ôl eich caniatâd i AUC ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion danfon gwybodaeth atoch am gynhyrchion neu wasanaethau. Gallwch wneud hynny trwy ysgrifennu at Addysg Uwch Cymru, 2 Pwynt Caspian, Heol Caspian, Bae Caerdydd, CF10 4DQ.