Sut mae ymchwil prifysgolion Cymru yn gwella’r byd o’n cwmpas?
Mae ymchwil prifysgolion Cymru yn cael effaith drawsnewidiol ar draws pob lefel o gymdeithas. Mae canlyniadau mwyaf diweddar y ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ (REF), sy’n asesu ansawdd ymchwil prifysgolion, yn dangos bod gan brifysgolion Cymru y canran uchaf o waith ymchwil sydd yn ‘arwain y byd’ o ran ei effaith nag unrhyw ran arall o’r DU, gyda bron i hanner ohono yn cael ei ystyried fel bod iddo effaith drawsnewidiol ar gymdeithas a’r economi.
Mae ymchwil prifysgolion Cymru wedi:
- – Sefydlu safon gofal newydd sydd wedi haneru’r risg o farw o ganser y prostad
- – Datblygu rhaglen atal iselder gost effeithiol sy’n cael ei chyflenwi i filoedd o aelodau’r cyhoedd a phobl broffesiynol o fewn y GIG
- – Sefydlu’r archwiliad systematig cyntaf o esblygiad y farn gyhoeddus ac ymddygiad etholiadol yng Nghymru, gan ddylanwadu ar Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli ac arwain YouGov i wneud arolygon penodol ar Gymru.
- – Newid trywydd polisi ar amgylcheddau byw i bobl hŷn ar lefel Llywodraeth Cymru arweiniodd at adolygu’r canllawiau yng nghyd-destun cau cartrefi gofal
- – Gwneud asesiadau clinigol mwy dibynadwy o gam-drin ac esgeuluso plant, gan olygu fod gwell hyfforddiant ar gyfer staff gofal iechyd ar draws y DU ac i dros 100,000 o weithwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, y farnwriaeth ac ymchwilwyr o 40 gwlad gwahanol.
- – Trawsnewid prydau ysgol, gan gyrraedd dros 500,000 o blant a chynyddu nifer y plant ysgol gynradd sy’n bwyta ‘pump y dydd’, drwy ddangos sut ellir diwygio’r gadwyn fwyd ysgol drwy greu gwell system gaffael.
Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy archwilio’r amrywiaeth o astudiaethau achos ymchwil sy’n dangos dyfnder ac ehangder y gwaith sy’n cael ei wneud gan ein prifysgolion, yr effaith sylweddol y mae hyn yn ei gael yn rhyngwladol ac yn fasnachol, a’r bobl dalentog sy’n rhan ohono.
Beth sy’n gwneud hyn i gyd yn bosib?
Yn sail i’r holl ymchwil ym Mhrifysgolion Cymru y mae cyllid Ymchwil Ansawdd (YA) – un rhan o’r system ‘ariannu-deuol’ sy’n gwneud yr holl ymchwil anhygoel hyn yn bosibl.
Mae’r YA yn arian ‘craidd’ gan Lywodraeth Cymru ac yn darparu’r seiliau ar gyfer yr hyn mae ail elfen y system ‘ariannu deuol’ sef ariannu cystadleuol, yn ddibynnol arno. Mae hyn yn cynnwys arian cyfatebol mewn ceisiadau ar gyfer Cynghorau Ymchwil, elusennau neu (ar hyn o bryd) arian yr Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, mae manteision yr YA yn mynd y tu hwnt i ddenu a sicrhau ariannu ymchwil cystadleuol i brifysgolion Cymru. Mae’r YA hefyd yn darparu ffynhonnell sefydlog o gyllid sy’n galluogi datblygiad strategol hirdymor o waith ymchwil, denu a chadw’r ymchwilwyr gorau o ar draws y byd a darparu cyfleoedd i sicrhau adnoddau i feysydd ymchwil newydd a rhai sydd yn dod i’r amlwg.
Caiff canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF) 2014 eu defnyddio fel sail i ddyrannu cyllid YA i brifysgolion. Mae canlyniadau’r ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’ mwyaf diweddar, sy’n asesu ansawdd ymchwil prifysgolion, yn dangos fod prifysgolion Cymru wedi gwneud gwelliannau enfawr o safbwynt effaith eu hymchwil. Darllenwch ei’n ffeithlen, sy’n dangos sut mae prifysgolion Cymru yn cael effaith drawsnewidiol ar bob elfen o gymdeithas.