Dangosodd ystadegau a gyhoeddwyd ddoe gan gorff derbyn myfyrwyr y DU UCAS, fod dros 8% yn fwy o fyfyrwyr wedi’u derbyn i brifysgolion Cymru nac yn 2012, sef cyfanswm o 1,440 yn fwy o dderbyniadau yn 2013. Cyhoeddwyd y ffigyrau wrth i ddisgyblion ysgol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch.
Dywedodd llefarydd o Addysg Uwch Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i fyfyrwyr a gasglodd eu canlyniadau, ac i’r sawl a gafodd leoedd yn eu dewis brifysgol. Ar gyfer y sawl na chafodd y graddau angenrheidiol, mae pob prifysgol yng Nghymru yn cynnig lleoedd trwy clirio a’n cyngor i fyfyrwyr na chawsant y graddau roedd eu hangen arnynt yw peidio digalonni a chysylltu â chanolfannau clirio’r prifysgolion. Mae addysg uwch yn fuddsoddiad rhagorol ac mae cyflogwyr yn dweud wrthym y bydd angen mwy o bobl â sgiliau lefel graddedigion arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Mae 91% o raddedigion o gyrsiau gradd gyntaf llawn amser yng Nghymru yn cael swydd chwe mis ar ôl gadael addysg uwch – sy’n uwch na chyfartaledd y DU. Yr allwedd i fyfyrwyr yw gofalu eu bod ar y cwrs sy’n gweddu iddynt, a dylent geisio cael cymaint o wybodaeth ag y gallant oddi wrth ymgynghorwyr a phrifysgolion”.
Dylai ymgeiswyr sy’n brin o’r canlyniadau roedd eu hangen arnynt geisio mynd i mewn i clirio, a chysylltu â swyddfeydd derbyniadau’r prifysgolion i weld a allent dderbyn cynnig is. Dylai ymgeiswyr ystyried hefyd cysylltu â gwasanaethau gyrfaoedd, er enghraifft, Gyrfa Cymru.
Gellir cysylltu â chanolfannau clirio prifysgolion Cymru trwy ddefnyddio’r manylion hyn:
- Clirio Prifysgol Aberystwyth – neu 01970608599
- Clirio Prifysgol Bangor – neu 08000851818
- Clirio Prifysgol Fetropolitan Caerdydd – neu 03003300755
- Clirio Prifysgol Caerdydd – neu 02920876000
- Clirio Prifysgol Glyndŵr – neu 01978293439
- Clirio Prifysgol Abertawe – neu 08000949071
- Clirio Prifysgol De Cymru – neu 08455760606
- Clirio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan) neu 03005005054
- Clirio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Metropolitan Abertawe) – neu 01792481010