Amdanom Ni

Mae Prifysgolion Cymru yn cynrychioli buddiannau prifysgolion yng Nghymru, ac mae’n un o Gynghorau Cenedlaethol Universities UK. Mae aelodau Prifysgolion Cymru yn cynnwys Is-gangellorion pob prifysgol yng Nghymru, a Chyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Mae aelodau Prifysgolion Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn academaidd i drafod materion yn ymwneud ag addysg uwch yng Nghymru, ac i benderfynu ar safbwyntiau a gweithredoedd ar y cyd. Mae’r Pwyllgor yn penderfynu’r blaenoriaethau strategol ar gyfer gwaith Prifysgolion Cymru.
Mae Cyfansoddiad Prifysgolion Cymru yn perthyn i gwmpas Erthyglau Cymdeithasiad Cymdeithas Prifysgolion y DU (UUK). Mae Cadeirydd Prifysgolion Cymru yn Is Lywydd ex officio UUK, yn Ymddiriedolydd UUK, ac yn aelod o Fwrdd UUK a’i Bwyllgor Gwaith.
Cadeirydd presennol Prifysgolion Cymru yw’r Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd. Etholir Cadeirydd Prifysgolion Cymru fel arfer am gyfnod o ddwy flynedd. Y Cadeirydd yw’r prif lefarydd ar gyfer Is-gangellorion yng Nghymru. Mae’r Cadeirydd yn cynrychioli sector prifysgolion mewn cyfarfodydd a chynadleddau allweddol.
Is-Gadeirydd presennol Prifysgolion Cymru yw Mr Rob Humphreys, Cyfarwyddwr Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Etholir yr Is-Gadeirydd am gyfnod o ddwy flynedd ac mae’n cyflawni swyddogaethau’r Cadeirydd yn eu habsenoldeb neu gyda’u hawdurdod.