Polisi Trydar AUC
Cynnwys
Rheolir cyfrif Twitter AUC gan dîm cyfathrebu AUC ar ran cydweithwyr ar draws y sefydliad.
Os ydych yn ein dilyn, gallwch ddisgwyl trydariadau amserol, llawn gwybodaeth a gwerth eu cofnodi yn hytrach na nifer penodol bob dydd. Bydd trydariadau AUC yn ymwneud â:
- Rhybuddion am gynnwys newydd ar ein gwefan
- Rhybuddion am Newyddion am AUC
- Rhybuddion am gyhoeddiadau newydd
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau, ymgyrchoedd a chyfarfodydd
- Sylwadau/adroddiadau am bolisi llywodraeth
- Gwahoddiadau i gynnig adborth ar faterion penodol
Y Gymraeg
Yr iaith ragosodedig ar gyfer Trydariadau AUC yw Saesneg. Fodd bynnag, pan fo’r mater dan sylw yn ymwneud â materion cyfrwng Cymraeg, gwnawn ein gorau i sicrhau bod y Trydariadau a phob ymateb/neges gysylltiol yn cael eu postio yn Gymraeg.
Os ydych yn ein dilyn ar Twitter ni fyddwn yn eich dilyn yn ôl yn awtomatig. Os yw AUC yn eich dilyn yn ôl, nid yw hynny’n awgrymu ardystiad o unrhyw fath.
Byddwn yn diweddaru a monitro ein cyfrif Twitter yn ystod oriau swyddfa, dydd Llun i ddydd Gwener. Efallai na fydd Twitter ar gael o bryd i’w gilydd ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth oherwydd nad yw Twitter ar gael.
Atebion a Negeseuon Uniongyrchol
Croesawn sylwadau ac adborth gan ein holl ddilynwyr. Fodd bynnag, ni allwn ateb yn unigol i bob un o’r negeseuon a dderbyniwn trwy Twitter.
Ni allwn drafod materion yn ymwneud â:
- Cheisiadau nad ydynt yn ymwneud ag Addysg Uwch yng Nghymru
- Ceisiadau i Brifysgolion
- Materion sy’n perthyn yn amlwg i gylch gorchwyl Prifysgolion unigol neu unrhyw achwyniadau neu gwynion
Os hoffech ohebu’n ffurfiol â ni, mae ein manylion cyswllt i’w gweld yn www.hew.ac.uk