COVID-19
Mae prifysgolion yng Nghymru yn cydlynu eu hymateb i’r holl heriau sylweddol a ddaw yn sgil COVID-19, gan gynnwys iechyd a lles myfyrwyr a staff, derbyniadau, a’r effaith hirdymor ar y sector. Mae Prifysgolion Cymru yn cymryd rôl flaenllaw wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn, gan weithio i sicrhau bod ein prifysgolion yn cael cymorth, nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r tudalennau hyn yn cynnig gwybodaeth ac adnoddau i brifysgolion ar Covid-19, ynghyd â manylion am sut mae prifysgolion yn helpu’r gwasanaeth iechyd a’u cymunedau lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Camau sy’n cael eu cymryd gan brifysgolion mewn ymateb i coronafeirws