• English
  • Cymraeg
  • Tiếng Việt
HEW logo Prifysgolion Cymru
  • COVID-19
  • Amdanom Ni
  • Cyhoeddiadau
  • Prifysgolion
  • Newyddion
  • Dylanwad
  • Cyswlltwch â Ni

Sut mae prifysgolion Cymru yn gwella’r byd o’n cwmpas? Mwy o wybodaeth

Cynlluniau prifysgolion ar gyfer tymor yr hydref

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws, addasodd prifysgolion yn gyflym ym mis Mawrth, gan newid y ffordd roeddent yn darparu eu gwasanaethau addysgu a gwasanaethau eraill yn sylweddol, wrth roi cymorth i staff a myfyrwyr.

Wrth i dymor yr hydref agosáu, mae prifysgolion yng Nghymru’n cydweithredu fel sector i sicrhau y gall myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd fwynhau profiad addysgol diogel, atyniadol ac o ansawdd uchel.

Dod allan o’r cyfnod cloi

Mae Prifysgolion y DU wedi cyhoeddi, mewn cydweithrediad â darparwyr yng Nghymru, set o egwyddorion lefel uchel a gwybodaeth ategol i brifysgolion ei hystyried wrth iddynt ddod allan o’r cyfnod cloi, gan ddarparu fframwaith i brifysgolion unigol wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau, gan ddibynnu ar eu lleoliadau a’u sefyllfaoedd.

Mae llesiant myfyrwyr a staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i brifysgolion, a bydd y sector bob amser yn cydymffurfio â chyngor iechyd cyhoeddus, gan gymryd pob mesur posibl i sicrhau bod cymuned y brifysgol yn gwybod beth sy’n digwydd, eu bod yn cael cefnogaeth ac yn teimlo’n ddiogel.

Profiad y myfyriwr
Canfu arolwg diweddar gan Brifysgolion y DU y bydd holl brifysgolion Cymru yn cynnig addysgu wyneb-yn-wyneb y tymor nesaf. Ar sail y rhagdybiaeth y bydd llawer o’r cyngor iechyd cyhoeddus cyfredol yn dal i fod mewn grym yr hydref hwn, mae prifysgolion yn bwriadu darparu dull cyfunol ar gyfer myfyrwyr.

Mae hynny’n golygu cymaint o addysgu, dysgu a chymorth wyneb-yn-wyneb / ar y campws â phosibl, gyda’r rhannau hynny o’r profiad prifysgol a fydd yn anodd eu cyflwyno (fel darlithoedd mawr) ar gael i fyfyrwyr mewn ffordd ryngweithiol ac atyniadol ar-lein.

Mae prifysgolion hefyd yn ystyried amryw o weithgareddau i roi’r profiad cymdeithasol i fyfyrwyr sy’n rhan mor bwysig o fywyd prifysgol, a gall myfyrwyr ddisgwyl ystod lawn o gefnogaeth – gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, cyngor gyrfaoedd, a sgiliau astudio.

Mae prifysgolion yn cyfathrebu’n rheolaidd â myfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl yn y flwyddyn academaidd newydd, ac maen nhw’n parhau i weithio’n agos gyda’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth yn parhau i fod o’r ansawdd uchaf.

Ewch i’n tudalen dolenni defnyddiol i gael y wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar Coronafeirws.

Diweddariadau

  • (English) Wales’ global future
  • (English) Universities delivering the skills for Wales’ future
  • Datganiad Prifysgolion Cymru ar ddychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb
  • Derbynnydd cyntaf rhaglen ysgoloriaeth ryngwladol newydd yn cyrraedd Cymru
  • (English) Universities Wales welcomes additional £40m for student support
  • Prifysgolion Cymru i adeiladu ar waith sy’n arwain y byd gyda chymunedau trwy fframwaith newydd
  • (English) Building Wales’ Future
  • Prifysgolion yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol am newid ar gyfer etholiad 2021
  • (English) Universities Wales statement on plans for safe return of students in January
  • (English) Civic Mission Showcase

Archif

  • 2021
  • 2020
  • 2019
  • 2018
  • 2017
  • 2016
  • 2015
  • 2014
  • 2013
  • 2012
  • 2011

Tags

applicants BIS civic mission Coleg Cymraeg Cenedlaethol Covid-19 Diamond economy Europe FE fees funding HEA HEAR HEFCE HEFCW innovation international LFHE National Assembly NUS OER part time QAA REF regulation research science skills student engagement teaching UCAS Universities UK Welsh Government widening access

Tweets diweddaraf

Universities Wales  @Unis_Wales
In this week's newsletter: ✅Blog: Wales' Global Future ✅#WeAreTogether campaign ✅Updated guidance on A-Level resul… https://t.co/ZbLffZGi6I 
19h reply retweet favorite 19 hours ago
Universities Wales  @Unis_Wales
Students across the country are volunteering to support the UK’s vaccine programme. @cardiffuni student Nkosi, w… https://t.co/l2BFLEN9gF 
19h reply retweet favorite 19 hours ago
Universities Wales  @Unis_Wales
In our latest blog post, Prof Iwan Davies @BangorUni shares his thoughts on how Wales can harness the combined stre… https://t.co/i7ze4XGMwx 
19h reply retweet favorite 19 hours ago

Follow @

Polisi Trydar AUC

© 2021 Prifysgolion Cymru

2 Pwynt Caspian, Caspian Way, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 4DQ
Ffôn: +44 (0)29 2044 8020, Ffacs: +44 (0)29 2048 9531, Wê: www.uniswales.ac.uk, E-bost: info@www.uniswales.ac.uk

Universities UK registered Charity No. 1001127.
A Company limited by guarantee and registered in England and Wales Company No. 2517018
Registered Office: Woburn House, 20 Tavistock Square, London WC1H 9HQ


  • Map o'r wefan
  • Preifatrwydd a chwcis
  • Unis Wales Twitter Policy