Rhyngwladol

Mae Prifysgolion Cymru’n cefnogi gweithgareddau rhyngwladol eang y naw prifysgol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhyngwladol ar ymchwil, annog symudedd allanol gan fyfyrwyr a rhyngwladoli gartref, a hyrwyddo sector AU Cymru’n weithredol yn rhyngwladol drwy ‘Astudio yng Nghymru’.
Ein nod yw cyfrannu at a dylanwadu ar bolisi rhyngwladol yng Nghymru, gan adeiladu cysylltiadau gyda phenderfynwyr allweddol a chynrychioli amrywiaeth ac ehangder y sector addysg uwch yng Nghymru. Rydym ni hefyd yn cydweithio’n agos gyda Universities UK International (UUKi) i ffurfio polisïau perthnasol ar gyfer y DU, yr UE ac yn Rhyngwladol.

Yn wyneb effaith ddiwylliannol ac economaidd sylweddol gweithgareddau rhyngwladol y prifysgolion, mae Prifysgolion Cymru wedi ymuno â Llywodraeth Cymru, British Council Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i ffurfio partneriaeth Cymru Fyd-eang. Nod y project yw hybu recriwtio myfyrwyr a chydweithio rhyngwladol ar ymchwil, ac mae’n hyrwyddo prifysgolion Cymru mewn marchnadoedd tramor allweddol. Y nod yw adeiladu mentrau cydweithredol newydd a chynyddu gwelededd Cymru dramor gan ddenu mewnfuddsoddi pellach. Mae’r rhaglen yn gweithredu cyd-fentrau allan o Gymru, ymweliadau â Chymru a gweithgareddau a digwyddiadau hyrwyddo drwy frand ‘Astudio yng Nghymru’. Mae’r bartneriaeth yn canoli ei gweithgareddau yn ystod tair blynedd gyntaf y prosiect yn yr Unol Daleithiau a Fietnam.
Amcanion
- Cyflwyno neges gyson am ansawdd ac amrywiaeth arlwy AU Cymru o ran ymchwil, sgiliau, cyfnewid gwybodaeth a phrofiad y myfyriwr gyda golwg ar sbarduno buddsoddiad tramor pellach yng Nghymru.Mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu’n sylweddol at ffyniant economaidd a diwylliannol Cymru. Creodd y prifysgolion £530 miliwn o enillion allforio yn 2014, sy’n cyfateb i 4% o holl allforion Cymru. Creodd hyn 7,600 o swyddi a £400m o werth ychwanegol gros yng Nghymru dros yr un cyfnod (Effaith Economaidd Myfyrwyr Rhyngwladol yng Nghymru).
- Hwyluso partneriaethau gyda sectorau allweddol yng Nghymru sy’n fanteisiol i bawb er mwyn datblygu cysylltiadau rhyngwladol ymhellach a denu mewnfuddsoddi a thwristiaeth.Mae myfyrwyr a staff rhyngwladol yn gweithredu fel llysgenhadon gydol oes i Gymru gan ddenu degau o filoedd o ymwelwyr â Chymru bob blwyddyn. Yn 2013-14 yn unig, amcangyfrifir mai ffrindiau a theuluoedd myfyrwyr rhyngwladol oedd yn gyfrifol am dros 50,000 o’r ymweliadau rhyngwladol â Chymru.
- Darparu cymorth cynyddol i sefydliadau ar gyfer eu gweithgareddau rhyngwladol i gefnogi rhyngwladoli prifysgolion Cymru a chyflwyno golwg fwy cydlynol o’r arlwy yng Nghymru.Mae rhyngwladoli, sy’n cynnwys symudedd myfyrwyr a staff, yn caniatáu i fyfyrwyr a staff domestig ddangos eu meddylfryd byd-eang, datblygu sgiliau iaith a chyfoethogi eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol – sydd oll yn fuddiol i economi a chymunedau Cymru. Mae ymchwil wedi dangos gwell canlyniadau cyflogaeth i fyfyrwyr symudol o’u cymharu â’u cymheiriaid nad ydynt wedi symud, gyda chyfraddau diweithdra ymhlith myfyrwyr symudol yn is ar draws bron pob cefndir economaidd-gymdeithasol. Ymhellach, mae myfyrwyr symudol o bob cefndir yn datgan cyflogau uwch ar gyfartaledd na’u cymheiriaid ansymudol (Gone International 2016)
- Datblygu mentrau newydd a all gyfrannu at gynyddu cyfraniad cyffredinol y sector i economi Cymru yn bennaf ym meysydd ymchwil cydweithredol, arloesi a recriwtio myfyrwyr.Bernir bod dros dri chwarter o’r ymchwil a gynhelir ym mhrifysgolion Cymru ‘yn arwain y byd’ neu’n ‘rhagorol yn rhyngwladol’ (REF 2014). Mewn byd lle mae llawer o’r heriau a wynebwn yn rhai byd-eang, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid rhyngwladol i rannu arbenigedd a chyfuno adnoddau. Er mwyn i Gymru gynnal ac adeiladu ar yr enw da rhyngwladol hwn, mae angen i ni gynnal a chynyddu ein cydweithio byd-eang ar ymchwil.
- Cydweithio’n fwy effeithiol drwy rannu adnoddau, cydweithio ar fentrau sy’n dod i mewn a threfnu cyd-fentrau sy’n wynebu allan.“Drwy gydweithredu ar brosiectau rhyngwladol, byddwn yn helpu Cymru i ffynnu, yn ychwanegu at enw da Cymru yn y byd ac yn cryfhau ‘brand Cymru’ (Cymru yn y Byd: Agenda Rhyngwladol Llywodraeth Cymru)