Newyddion

Datganiad gan Addysg Uwch Cymru ar Fil Addysg Uwch (Cymru)

Gweler isod ymateb Addysg Uwch Cymru i ddatganiad y prynhawn yma gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y Mesur Addysg Uwch (Cymru):

Mae prifysgolion Cymru’n deall fod llywodraethau, yma ac mewn mannau eraill, yn nerfus am effaith lleihau cyllid prifysgolion a’u hatebolrwydd i’r dyfodol. Mae prifysgolion yn credu eu bod, ac y dylent fod, yn atebol ac mae statws elusennol prifysgolion yn mynnu eu bod yn gweithredu er lles y cyhoedd.

Ar yr un pryd, mae prifysgolion Cymru a rhai ar draws gwledydd Prydain yn ffynnu ar egwyddorion annibyniaeth sydd ym marn llawer wedi’u galluogi i ddod yn sefydliadau safon byd. Rhaid canfod cydbwysedd priodol a chymesur er mwyn galluogi prifysgolion i lwyddo yn eu cenadaethau ac i sicrhau ffyniant economaidd a chymdeithasol i Gymru.

Mae’n dilyn felly fod gofynion llywodraeth yn un elfen o’r fframwaith atebolrwydd y mae prifysgolion yn gweithredu oddi fewn iddo. Byddem yn disgwyl i’r Bil hwn, ac unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ei ddilyn, barchu’r ffaith honno. Mae prifysgolion yn awyddus iawn na ddylid tanseilio eu hatebolrwydd uniongyrchol i fyfyrwyr sy’n talu ffioedd. Credwn ei bod yn bwysig fod trefniadau priodol ar waith i ddiogelu buddiannau a buddsoddiad ein myfyrwyr y gweithiwn mor agos â nhw yng Nghymru, yn enwedig felly’r sawl nad ydynt yn derbyn cymhorthdal grant ar gyfer ffioedd dysgu.

Mae’r ffaith fod cymaint o drefniadau pwysig wedi cael eu gadael allan o’r Bil ac i gael eu penderfynu gan reoliadau dilynol, yn bennaf trwy’r broses benderfynu negyddol, yn destun cryn bryder i brifysgolion. Golyga hynny ei bod yn anodd asesu effaith gyffredinol y fframwaith deddfwriaethol. Mae llawer o’r materion a ddirprwywyd i reoliadau yn codi cwestiynau allai gael effaith ddifrifol ar brifysgolion, gan gynnwys eu statws cyfrifo cenedlaethol yn Sefydliadau Elw yn Gwasanaethu Aelwydydd (NPISH) a’u statws elusennol. Gallai’r rhain yn eu tro gael effaith ar allu ein prifysgolion i weithredu a thrwy hynny i ddenu partneriaid allweddol, swyddi ac yn y pendraw twf i Gymru.

Mae’r Bil, yn eithriadol, yn cynnwys y grym i ddiwygio Deddfau yn ddiweddarach trwy is-ddeddfwriaeth. Credwn yn gryf y dylai pob darpariaeth fynd trwy weithdrefn ddeddfwriaethol gadarnhaol sy’n cynnwys ymgynghori priodol gyda’r holl fudd-ddeiliaid a phleidlais yn y Cynulliad. Mae’n hollbwysig cael y Bil yn iawn, ac ni ddylid ei basio mewn egwyddor onid yw’r holl fudd-ddeiliaid allweddol yn hyderus ei fod.

Mae’n bwysig fod trefniadau priodol ar waith i ddiogelu buddiannau a buddsoddiad myfyrwyr, y cyhoedd a phrifysgolion eu hunain, a dyna pam y credwn y dylai unrhyw newidiadau rheoleiddiol rymuso a chefnogi ein prifysgolion, ac na ddylai fod unrhyw berygl y gallent beri unrhyw niwed i’r sector allai fod yn anodd ei ddadwneud yn y dyfodol. Mae prifysgolion Cymru yn cyrraedd pob rhan o gymdeithas, gan fwydo lles cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ein cenedl, a bydd Addysg Uwch Cymru yn mynd ati i weithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw reoleiddio newydd nid yn unig yn gymesur ond ei fod yn adeiladu ar ein henw da fel rhan o system addysg uwch ar draws gwledydd Prydain sy’n cael ei chydnabod yn un safon byd.