- Mae Thales a Phrifysgol De Cymru yn gosod fframwaith ar gyfer cydweithio ar ddatrysiadau technoleg cyfredol ac yn y dyfodol.
- Gweithio gyda’i gilydd ar addysg, ymchwil a gweithgareddau hyfforddi.
- Bydd myfyrwyr yn elwa o ymweliadau safle, lleoliadau ac interniaethau.
Fe wnaeth Thales a Phrifysgol Cymru sefydlu cytundeb ar osod fframwaith ar gyfer cydweithio ar ddatrysiadau technoleg cyfredol ac yn y dyfodol, gan gynnwys ym maes diogelwch seiber.
O dan delerau’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, bydd Thales a Phrifysgol De Cymru yn gweithio ar addysg,, ymchwil a gweithgareddau hyfforddiant ar gyfer y dyfodol. Mae’r bartneriaeth newydd yn manteisio i’r eithaf ar arbenigedd cydnabyddedig Thales yn fyd-eang mewn systemau a gwasanaethau critigol a gallu’r brifysgol mewn technolegau allweddol.
Bydd hales yn cyfuno ei arbenigedd a’i brofiad mewn TGCh uwch-dechnoleg, diogelwch seiber, datrysiadau menter digidol, dadansoddeg, synwyryddion ac arloesedd sy’n cael ei sbarduno gan ddylunio gyda galluoedd Prifysgol De Cymru i nodi rhaglenni cydweithredol newydd mewn partneriaeth strategol sy’n datblygu, i ddechrau ym maes diogelwch seiber ac ynni adnewyddadwy.
O dan y rhaglen bydd myfyrwyr Prifysgol De Cymru yn elwa ar:
- ymweliadau safle
- ddarlithoedd gwadd
- Ysgoloriaethau ymchwil PhD
- interniaethau a lleoliadau
- prosiectau myfyrwyr
- prentisiaethau
Dywedodd Gareth Williams, Is-Lywydd, Secure Communications and Information Systems: ‘Mae gan Thales hanes hir a sefydledig o gydweithio gyda sefydliadau academaidd yn effeithiol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Phrifysgol De Cymru, gan barhau i weithio gyda’r meddyliau disgleiriaf i arloesi, a datblygu datrysiadau newydd i heriau diogelwch seiber heddiw ac yfory.’