Newyddion

Cyflawni i Gymru – Blaenoriaethau addysg uwch i Lywodraeth Cymru i’r dyfodol

Cyflawni i Gymru – Blaenoriaethau addysg uwch i Lywodraeth Cymru i’r dyfodol

Heddiw lansiodd Prifysgolion Cymru, y corff cynrychioliadol ar gyfer Is Gangellorion prifysgolion Cymru, ei ‘cheisiadau’ maniffesto i Lywodraeth Cymru i’r dyfodol wrth edrych ymlaen at etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru y flwyddyn nesaf.

Mae’r corff yn credu y bydd newidiadau i ariannu prifysgolion a myfyrwyr yn Lloegr yn y blynyddoedd nesaf yn golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru i’r dyfodol ddewisiadau anodd eu gwneud ar ble i flaenoriaethu ei gwario.

Gan ganolbwyntio ar chwe ymrwymiad craidd, dywed yr Athro Colin Riordan, Is Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Prifysgolion Cymru: “Os ydym yn mynd i barhau i fod yn rym cadarnhaol er lles pobl Cymru a’n cymunedau lleol, rhaid i’r llywodraeth nesaf flaenoriaethu polisïau sy’n arfogi prifysgolion i barhau i gyflawni manteision economaidd a chymdeithasol o bwys i Gymru.”

“Credwn y bydd cynnig grantiau cynhaliaeth trwy brawf modd i fyfyrwyr o Gymru o lefel sylfaen i lefel ôl-radd yn rhoi’r cyfle i lawer mwy o bobl ddawnus drawsnewid eu cyfleoedd bywyd trwy fynd i brifysgol.”

“Bydd rhyddhau adnoddau trwy dargedu grantiau ffioedd dysgu ar y sawl sydd fwyaf eu hangen hefyd yn golygu y gellir blaenoriaethu cyllid ar bolisïau addysg uwch sy’n arfogi ein prifysgolion i greu twf economaidd, mwy o gyfiawnder cymdeithasol ac, yn hollbwysig, arlwy brifysgol o ansawdd uchel i fyfyrwyr.”

“Mae ein prifysgolion yn asedau cenedlaethol hollbwysig. Nid ydynt ond yn adnoddau i gyflwyno rhaglenni astudio; maent hefyd yn cynhyrchu buddsoddiadau sylweddol mewn sector sy’n tyfu. Wrth inni edrych i’r dyfodol, prifysgolion, a’r gyfran gynyddol o bobl ifanc sy’n astudio ynddynt, fydd yn arwain yr ymdrech i greu economi sy’n gystadleuol yn fyd-eang yng Nghymru. Mae gan ein prifysgolion y gallu i fod yn brif asiant newid yng Nghymru trwy greu economi a chymdeithas gref sy’n seiliedig ar wybodaeth.”

“Rwyf yn falch o lansio ein maniffesto heddiw. Credaf ei bod yn allweddol i brifysgolion yng Nghymru allu parhau i gynnig y manteision economaidd a chymdeithasol sydd mor hanfodol os yw ein cenedl yn mynd i dyfu i’r dyfodol.”

Y chwe ymrwymiad sylfaenol ar gyfer prifysgolion a ddylai fod yn brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru nesaf yw:

1. Darparu grantiau cynhaliaeth trwy brawf modd i fyfyrwyr o Gymru o lefel sylfaen i lefel ôl-radd i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cyfleoedd newid-bywyd y mae addysg uwch yn eu cynnig.
2. Blaenoriaethu gwariant addysg uwch tuag at bolisïau sy’n cynnig cyfleoedd i fanteisio ar addysg brifysgol o ansawdd uchel ac sy’n darparu manteision economaidd a chymdeithasol i unigolion, llywodraeth a busnesau yng Nghymru.
3. Cynnal mewn termau go iawn y gyllideb ymchwil ansawdd-gysylltiol (QR) sy’n sail i ymchwil sy’n arwain y byd yng Nghymru, a sicrhau ei bod yn tyfu mewn termau go iawn.
4. Parhau i fuddsoddi mewn darpariaeth ran-amser er mwyn ehangu mynediad at addysg uwch a datblygu sgiliau allweddol yn y gweithlu yng Nghymru, gan gofio fod darpariaeth ran-amser yn galw am gefnogaeth a buddsoddiad penodol er mwyn cyflawni i Gymru.
5. Cadw corff ariannu a goruchwyliol ar gyfer addysg uwch yng Nghymru i gynnig sefydlogrwydd i’r sector, darparu sicrwydd i’r Llywodraeth a galluogi prifysgolion i barhau i gyflawni i Gymru.
6. Cefnogaeth weithredol o blaid yr ymgyrch y dylai Cymru barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r dogfen llawn ar gael yma: Cyflawni i Gymru – Blaenoriaethau addysg uwch i Lywodraeth Cymru nesaf.

–Diwedd–

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Prifysgolion Cymru yn cynrychioli buddiannau prifysgolion yng Nghymru, ac mae’n Gyngor Cenedlaethol Universities UK. Mae aelodaeth Prifysgolion Cymru yn cynnwys Is Gangellorion pob prifysgol yng Nghymru, a Chyfarwyddydd y Brifysgol Agored yng Nghymru.
  • Mae dogfen ceisiadau maniffesto ‘Cyflawni i Gymru – Blaenoriaeth addysg uwch i Lywodraeth Cymru i’r dyfodol’  ar gael ar wefan Prifysgolion Cymru.
  • Mae ffigyrau ar effaith economaidd i’w gweld yn  adroddiad ‘Effaith Economaidd Addysg Uwch yng Nghymru’.