Newyddion

Prifysgolion Cymru i adeiladu ar waith sy’n arwain y byd gyda chymunedau trwy fframwaith newydd

Heddiw mae prifysgolion yng Nghymru wedi lansio fframwaith newydd i helpu prifysgolion i adeiladu ar y ffyrdd maen nhw’n gweithio gyda phobl, ysgolion a chymunedau. Bydd y strwythur newydd hwn yn cynorthwyo prifysgolion i ddarparu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol trwy gysylltu’n agosach â chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Mae’r Fframwaith hwn y cyntaf o’i fath yn y DU, a’r cyntaf yn y byd i gael pob prifysgol mewn gwlad yn rhan ohono; fe’i datblygwyd gan Rwydwaith Cennad Ddinesig Cymru, â’r nod o flaenoriaethu cennad ddinesig a chryfhau cysylltiadau â’r cymunedau o’u cwmpas.

Mae’r Fframwaith yn galluogi prifysgolion i rannu arfer gorau wrth ddatblygu a chynnal prosiectau cennad ddinesig, ac mae’n cynorthwyo’r sector i ddangos effaith gadarnhaol ei waith ar gennad ddinesig.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth galon y Fframwaith Cennad Ddinesig, gyda’r saith nod llesiant o’r ddeddfwriaeth unigryw hon yn ffurfio’r egwyddorion allweddol sy’n arwain sut mae prifysgolion yn cyfrannu at gennad ddinesig yng Nghymru.

Lansiwyd y Fframwaith yn swyddogol yn Arddangosfa Cennad Ddinesig Prifysgolion Cymru, gyda’r Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams ASC, yn traddodi’r brif araith.

Roedd y digwyddiad ar-lein hefyd yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos yn tynnu sylw at y gweithgareddau a gyflawnwyd gan brifysgolion Cymru er budd eu cymunedau lleol a’r byd ehangach – o arwain prosiect cenedlaethol ar fonitro dŵr gwastraff am Covid-19, i ddarparu cymorth i bobl hŷn sy’n profi cam-driniaeth ddomestig.

Wrth siarad yn y digwyddiad, meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i’r sector ac i mi yn bersonol – mae’r fframwaith hwn wedi’i ddatblygu ym mhrifysgolion Cymru, ac ar eu cyfer nhw, a’n pobl a’n lleoedd.

“Rwyf am longyfarch y Rhwydwaith Cennad Ddinesig a mynegi fy ngwerthfawrogiad bod CCAUC wedi gallu cefnogi’r fenter.

“Trwy ffurfioli’r rôl a hyrwyddo cennad ddinesig mewn deddfwriaeth, rydym ar drothwy rhywbeth cyffrous iawn.

“Rwy’n hyderus bod gennym sector sy’n gryf o ran y gwerthoedd hynny a rennir, er lles pawb, o ofalu am gymunedau a’n gwlad, ac rwy’n gobeithio, yn y cyfnod nesaf, y gwelwn ymrwymiad cryfach fyth i gennad ddinesig.”

Meddai Lynnette Thomas, Cadeirydd y Rhwydwaith Cennad Ddinesig:

“Mae prifysgolion yng Nghymru wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau ers amser maith, gyda hanes balch o weithio gyda phobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnes.

“Yn y Fframwaith Cennad Ddinesig, mae gan brifysgolion strwythur effeithiol a fydd yn eu galluogi i barhau ac adeiladu ar y gwaith hwn i gynorthwyo ein cymunedau mewn ardaloedd lle mae mawr angen y cymorth hwnnw, i helpu â chreu Cymru fwy gwydn a chyfartal.”

Meddai’r Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae’r amhariad a welwyd yn sgil Covid-19 wedi dysgu un peth pwysig i ni, sef bod gan brifysgolion yng Nghymru allu unigryw i ddod at ei gilydd a chreu effaith wirioneddol ar draws cymunedau mewn cyfnod o angen.

“Mae prifysgolion yng Nghymru yn cydnabod bod y wlad yn wynebu amrywiaeth o heriau dros y blynyddoedd i ddod, a bod yn rhaid i’w rôl mewn darparu’r hyn sydd ei angen ar y wlad i ymateb i’r heriau hynny fod yn flaenoriaeth strategol. Byddant yn parhau i flaenoriaethu cennad ddinesig ac yn trafod ag arweinwyr ar draws eu rhanbarthau â’r nod o fynd i’r afael â newidiadau cymdeithasol allweddol a sicrhau deilliannau cadarnhaol i’w cymunedau.”

Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC:

“Rydym yn falch o gynnig cefnogaeth i Brifysgolion Cymru allu datblygu Rhwydwaith Cennad Ddinesig Cymru, sydd wedi creu strwythur defnyddiol yn y Fframwaith Cennad Ddinesig sy’n cael ei lansio heddiw. Mae’n bleser gennym weld bod yr Arddangosfa heddiw yn rhoi cyfle i brifysgolion yng Nghymru rannu eu gwaith cennad ddinesig â chynulleidfa ehangach. Byddwn yn parhau i gefnogi sefydliadau yn y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud yn eu cymunedau a gyda nhw.”

Astudiaethau achos

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCyDDS)
Mae’r Ganolfan Arloesi ar gyfer Technolegau Cynorthwyol (ATiC) yn PCyDDS yn gweithio gyda Cerebra i ddatblygu proses ar gyfer sganio pennau plant â chyflyrau ymennydd sydd wedi effeithio ar dwf a datblygiad eu penglogau.

Mae gan Imogen barlys yr ymennydd ac mae wrth ei bodd yn marchogaeth, ond mae siâp ei phenglog yn ei gwneud hi’n anodd dod o hyd i helmed marchogaeth sy’n ffitio’n iawn. Trwy’r bartneriaeth hon, llwyddodd ATiC a Cerebra i ddefnyddio offer sganio uwch-dechnoleg i greu helmed bwrpasol sy’n ffitio’n berffaith. https://bit.ly/38wiWAU

 

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Mae gwyddonwyr ym Met Caerdydd @cardiffmet wedi creu teclyn ‘HUG’ sydd wedi’i gynllunio i ddarparu cysur a chynyddu llesiant pobl sy’n byw gyda dementia dwys. Mae ganddo galon sy’n curo, mae’n chwarae cerddoriaeth, ac mae ganddo ‘freichiau’ ag iddynt bwysau, sy’n rhoi’r teimlad o roi a derbyn cwtsh.

Mewn astudiaeth mewn cartref gofal, dangosodd y bobl a ddefnyddiodd yr HUG am chwe mis gynnydd o 87% yn eu llesiant. https://bit.ly/2Ln1zJZ

 

Prifysgol Aberystwyth
Dewis Choice, sef prosiect sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth, yw’r gwasanaeth cyntaf yn y DU sy’n benodol ar gyfer pobl hŷn sydd wedi profi cam-driniaeth ddomestig. Ers ei sefydlu, mae dros 140 o bobl hŷn a’u teuluoedd wedi cael cefnogaeth ddwys hirdymor, gyda llawer yn disgrifio’r gwasanaeth fel un sydd wedi achub eu bywydau. https://bit.ly/2LCFGGs

 

Prifysgol De Cymru
Mae Prifysgol De Cymru yn gweithredu Cynllun Noddfa ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, sy’n caniatáu i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru gael gwersi iaith fel rhan o’u paratoi ar gyfer dechrau ar gwrs gradd. https://bit.ly/3ny6Vzo

 

Prifysgol Bangor
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio’r lefelau Covid-19 sy’n bresennol mewn dŵr gwastraff. Mae’r gwaith hwn yn helpu i gofnodi lefelau’r feirws yng nghymunedau Cymru, a gall hefyd ddarparu system rhybuddio cynnar ar gyfer clefydau eraill sy’n dod i’r amlwg yn y gymuned, fel ffliw a norofeirws. https://bit.ly/2XvJrjK

 

Prifysgol Abertawe
Mae prosiect Copperopolis Prifysgol Abertawe @swanseauni yn canolbwyntio ar ymgysylltu â grwpiau cymunedol, ysgolion, colegau ac elusennau wrth adfywio gwaith copr Hafod, prosiect sy’n seiliedig ar dreftadaeth.

Mae’r gwaith wedi helpu i godi proffil treftadaeth ddiwydiannol Cwm Tawe Isaf a’i phwysigrwydd i’r ddinas. https://bit.ly/3i0b3Hf

 

Prifysgol Caerdydd
Nod Prosiect Treftadaeth Caer gan Brifysgol Caerdydd yw codi proffil safleoedd hanesyddol fel Bryngaer Caerau, sef y safle mwyaf o ran maint a chymhlethdod o’r Oes Haearn yn rhanbarth Caerdydd. Mae’r prosiect yn cynnwys pobl a chymunedau lleol ym mhob rhan o’r broses trwy weithgareddau fel ymchwil hanesyddol a chloddfeydd archeolegol.

Mae’r prosiect wedi denu dros 3,500 o gyfranogwyr gweithredol. https://bit.ly/3i20bbK

 

Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae prosiect REACH Blaneau Gwent, sy’n cael ei redeg gan y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Linc Cymru a Grŵp Trigolion Aberbeeg, yn cynorthwyo trigolion Blaenau Gwent i ymgysylltu â’r celfyddydau, y gymuned a threftadaeth.

Mae yna gynlluniau ar y gweill i dyfu’r prosiect ym mhob ardal yng Nghymru. https://bit.ly/2LJBg0I

 

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Nod y prosiect TrACE gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a Hyb Cymorth ACE yw galluogi a chynorthwyo Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes atal, lliniaru a mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol a thrawma yn ystod plentyndod.
https://bit.ly/3sfIEBG