Ein gwaith

Rydyn ni'n gweithio gyda'r llywodraeth, y Senedd a rhanddeiliaid i gynorthwyo â datblygu a gweithredu polisi mewn meysydd sy'n effeithio ar addysg uwch, gan gwrdd yn rheolaidd gydag Aelodau'r Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at flaenoriaethau allweddol ar gyfer y sector addysg uwch a'r buddion rydyn ni'n eu darparu i gymunedau ledled Cymru.

Gan fod addysg yn faes sydd wedi’i ddatganoli, mae ein gwaith polisi yn canolbwyntio'n bennaf ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cynrychioli buddiannau ein haelodau i Lywodraeth y DU, yn ogystal â chyrff a sefydliadau perthnasol eraill fel y bo'n briodol.

Yn ogystal â'n gwaith gyda'r llywodraeth, rydym hefyd yn:

  • ymateb i ymgynghoriadau ar faterion allweddol ar ran ein haelodau
  • cynhyrchu cyhoeddiadau sy'n archwilio ac yn hyrwyddo meysydd allweddol sydd o bwys i addysg uwch yng Nghymru
  • gwylio’r gorwel a ran y sector
  • cynnal dadansoddiad ac ymchwil mewn meysydd allweddol
  • cyflwyno prosiectau sy'n cryfhau'r buddion y mae addysg uwch yn eu cynnig i Gymru yn unol â’n cennad

Gallwch weld mwy am ein gwaith

 

Ein hamcanion

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar 5 maes strategol:

A tray of test tubes being filled with a pipette of pink liquid

Ymchwil ac Arloesi
Mae ymchwil ac arloesi ym mhrifysgolion Cymru o fudd i bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn gweithio i sicrhau bod ymchwil a gynhelir mewn prifysgolion yn ganolog ym mholisi'r llywodraeth, a bod prifysgolion mewn sefyllfa dda i weithio ar y cyd â'r llywodraeth a diwydiant i ddenu buddsoddiad ar gyfer ymchwil ac arloesi o'r tu allan i Gymru.

Adnoddau, partneriaethau a chydweithio
Mae prifysgolion yng Nghymru ar flaen y gad mewn system addysg flaengar yng Nghymru sy'n gwasanaethu pobl, y gymdeithas a'r economi. Rydym yn gweithio i hwyluso cydweithredu rhwng prifysgolion ac eraill i sicrhau'r gwerth gorau am arian a’r budd cyhoeddus mwyaf.

Sgiliau
Mae ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar fynediad pobl a chyflogwyr at y sgiliau lefel uwch a ddarperir gan brifysgolion. Ein nod yw sicrhau cydnabyddiaeth eang o rôl hanfodol prifysgolion wrth ddiwallu anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol, ynghyd â sicrhau bod gan brifysgolion y pŵer i baratoi Cymru ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i'r gweithlu.

Ymreolaeth a llywodraethiant
Mae prifysgolion yn rhan bwysig o wead economaidd a chymdeithasol Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar amddiffyn conglfeini pwysig fel rhyddid academaidd ac ymreolaeth, tra hefyd yn cynorthwyo'r sector i arwain y ffordd o ran llywodraethiant da.

Rhyngwladol
Mae gweithgaredd rhyngwladol prifysgolion yn hanfodol bwysig i berfformiad economaidd a rhwydweithiau byd-eang Cymru yn y dyfodol. Trwy raglen Cymru Fyd-eang, ein nod yw canfod a manteisio ar gyfleoedd newydd ar gyfer recriwtio, ymchwil a symudedd i brifysgolion Cymru.

A group of people working around a wooden table

Sut rydym yn gweithio

Our members meet regularly to discuss key issues facing the sector, and to decide upon collective positions and actions. We also convene several groups and networks which help to shape and develop our policy and strategic priorities.

Pwyllgor Prifysgolion Cymru 
Dyma ein pwyllgor llywodraethu, ac rydym yn atebol iddo. Mae aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys is-gangellorion holl brifysgolion Cymru, yn ogystal â Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn darparu fforwm ar gyfer trafod materion allweddol sy'n effeithio ar addysg uwch yng Nghymru. 
Cadeirydd: Yr Athro Paul Boyle, Prifysgol Abertawe

Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu 
Mae'r Rhwydwaith Dysgu ac Addysgu yn llywio ein gwaith ar faterion polisi mewn dysgu ac addysgu, sicrhau ansawdd, gwella ansawdd a phrofiad dysgu myfyrwyr, sy’n hollbwysig i’r sector yn y tymor byr a’r tymor hir.
Cadeirydd: Claire Morgan, Prifysgol Caerdydd

Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi 
Mae'r Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi yn siapio ein gwaith ym maes ymchwil yng Nghymru, gan gynorthwyo â chyflawni ein hamcanion strategol ar ymchwil ac arloesi.
Cadeirydd: Yr Athro Paul Boyle, Prifysgol Abertawe

Bwrdd Rhwydwaith Arloesi Cymru
Mae'r Bwrdd hwn yn goruchwylio prosiect Rhwydwaith Arloesi Cymru ac yn gweithredu fel is-grŵp o'r Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi. Mae'r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob prifysgol yng Nghymru gan gynnwys dirprwy is-gangellorion ymchwil a/neu arloesi a Dirprwy Gyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Cadeirydd Dros Dro: Yr Athro Paul Boyle, Prifysgol Abertawe

Rhwydwaith Rhyngwladol
Mae Rhwydwaith Rhyngwladol Prifysgolion Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o bob prifysgol yng Nghymru ac mae'n darparu arweiniad a mewnbwn y sector i Fwrdd Cymru Fyd-eang a mentrau rhyngwladol Prifysgolion Cymru.
Cadeirydd: Dr Ben Calvert, Prifysgol De Cymru

Bwrdd Cymru Fyd-eang
Mae Bwrdd Cymru Fyd-eang yn darparu cyfeiriad strategol i brosiect Cymru Fyd-eang, ac mae'n cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau sy’n bartneriaid Cymru Fyd-eang (Prifysgolion Cymru, CCAUC, Y Cyngor Prydeinig yng Nghymru, a Llywodraeth Cymru).
Cadeirydd: Dr Ben Calvert, Prifysgol De Cymru

Rhwydwaith Cennad Ddinesig
Mae Prifysgolion Cymru’n cynnal y Rhwydwaith Cennad Ddinesig, a sefydlwyd i alluogi rhannu arfer a gweithio mewn partneriaeth o fewn cymunedau.

Grŵp Cyfathrebu
Mae Grŵp Cyfathrebu Prifysgolion Cymru’n darparu fforwm i gydweithwyr cyfathrebu ym mhrifysgolion Cymru rannu gwybodaeth ac arfer gorau.