Hygyrchedd

Rydym yn ceisio sicrhau bod y wefan hon yn darparu mynediad cyfartal i bob ymwelydd o blith y cyhoedd. Os ydych chi’n meddwl y gellid cyflwyno’r cynnwys ar y wefan mewn modd mwy hygyrch, cysylltwch â ni gyda’ch awgrymiadau. 

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwefan. Er enghraifft, dylai hynny olygu:

  • gallwch lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gallwch lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gallwch lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Mae cyferbyniad uchel rhwng testun a lliw cefndir
  • mae testun yn cael ei drin mewn modd sy’n hwylus i bobl lliwddall gyda theitlau a dolenni mewn print bras wedi’u tanlinellu 
  • mae dilyniant tabiau mewn trefn resymegol 
  • bydd testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch chi’n newid maint ffenestr y porwr
  • gallwch chi nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • mae’n bosib nad yw rhai o’n dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch
  • nid oes capsiynau caeedig gyda rhai o’r fideos sydd wedi’u plannu
  • nid oes trawsgrifiadau sain gyda rhai o’n fideos
  • mae’n bosib nad yw rhai gwefannau y mae gennym ddolenni atynt wedi cael eu profi o ran eu hygyrchedd
  • er ein bod yn ymdrechu i gyfathrebu mor eglur ag sy’n bosib, bydd angen lefel resymol o ddealltwriaeth dechnegol ac academaidd o unrhyw bwnc oherwydd diben a chynulleidfa ein sefydliad

Os bydd unrhyw un o’r problemau hyn yn eich rhwystro rhag cael yr wybodaeth y mae ei hangen arnoch o’n gwefan, anfonwch e-bost atom yn info@universitiesuk.ac.uk a byddwn yn falch o’ch helpu

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio i wneud yr holl gynnwys ar ein gwefan yn hygyrch i bawb. Mae golygyddion cynnwys yn ymgymryd â hyfforddiant ynglŷn â sut i ychwanegu cynnwys gyda golwg ar hygyrchedd. Rydym yn cynnal archwiliadau hygyrchedd awtomataidd gan drydydd-parti ar y wefan gyfan yn rheolaidd er mwyn canfod problemau, ac rydym yn gweithio gyda’n tîm datblygu a’n golygyddion cynnwys i ddatrys problemau hygyrchedd.

Cymorth gyda hygyrchedd 

Cydnawsedd porwyr

Y ffordd orau o weld y wefan ydy trwy Firefox, Chrome, Edge, Safari neu Opera. Argymhellir y dylech uwchraddio i’r fersiynau diweddaraf i gael y profiad defnyddiwr gorau.

Newid maint y testun

Os byddwch chi’n gweld y testun yn anodd i’w ddarllen, efallai yr hoffech ei wneud yn fwy o faint.

Os ydych chi’n defnyddio system weithredu Microsoft Windows a bod gennych lygoden sydd ag olwyn reoli arni, gallwch chi ddefnyddio hwnnw i newid maint y dangosydd. Pwyswch y botwm Ctrl ar eich bysellfwrdd a’i ddal i lawr, yna symudwch yr olwyn ar y llygoden – ymlaen i gynyddu’r maint, ac yn ôl i’w leihau.

Neu gallwch reoli maint y testun trwy eich porwr gwe:

  • Yn Firefox, dewiswch Golwg>Chwyddo
  • Yn Internet Explorer dewiswch Gwedd>Maint testun
  • Yn Chrome dewiswch Options>Zoom

Newid lliw a chyferbynnedd y wefan

Gweler canllawiau AbilityNet 'My computer my way' i gael gwybodaeth ynglŷn â sut i osod eich system i newid lliwiau a chyferbyneddau.

Dolenni

Dylai testun dolen wneud synnwyr oddi allan i’w gyd-destun a dylai roi disgrifiad da o’r dudalen y mae’n cysylltu â hi. Gallwch ddefnyddio’r allwedd tab ar eich bysellfwrdd (yn ogystal â’ch llygoden) i symud o ddolen i ddolen yn olynol.

Adnoddau defnyddiol

Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Cyfeiriadau hygyrchedd

  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
  • Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.1 W3C

Diweddarwyd ddiwethaf ar 12/01/22