Mae myfyrwyr rhyngwladol yn aelodau gwerthfawr o'n campysau a'n cymunedau. Trwy eu cyfraniadau mewn astudiaethau ac ymchwil, mae myfyrwyr rhyngwladol yn sicrhau bod ein prifysgolion yn parhau i fod ag ymagweddiad byd-eang, ac maent yn dod â buddion cymdeithasol ac economaidd i gymunedau ledled Cymru. Trwy dreulio eu hamser yng Nghymru, maent yn cyfoethogi gwead ein cymdeithas, yn rhannu eu profiadau eu hunain, ac yn cryfhau ein cysylltiadau â gwledydd ledled y byd.

Wrth astudio gyda ni maent yn dod i adnabod Cymru, ei phobl a’i lleoedd, ac yn cario’r ymdeimlad hwnnw o leoliad gyda nhw drwy gydol eu hoes.

Mae prifysgolion yng Nghymru eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y rhai sy’n dewis dod i astudio yng Nghymru’n teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi; hefyd eu bod yn cael y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth sydd eu hangen arnynt cyn iddynt ymuno â ni a thra byddant yma.

Rydym wedi datblygu'r set hon o egwyddorion sy'n amlinellu rhai o'r amryw ffyrdd y bydd prifysgolion yn cefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol.

Gallwch lawrlwytho'r egwyddorion hyn isod.