An aerial shot of North Wales coastline

Mae addysg uwch yn gwneud cyfraniad pwysig i bobl a lleoedd Cymru - gan gyfoethogi llesiant cymdeithasol a diwylliannol y genedl, yn ogystal â phweru'r economi trwy greu swyddi, addysg o safon fyd-eang, ac ymchwil arloesol.

Mae gan brifysgolion ran hanfodol i'w chwarae wrth gyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru - cyflwyno sgiliau ac addysg i fwy o bobl, ynghyd ag arwain y ffordd ar ddatblygiadau gwyddonol sy'n llunio ein dealltwriaeth o'r byd a sut rydym yn byw ynddo.

Ffeithiau a ffigurau

  • Mae 134,000+ o fyfyrwyr yn mynychu prifysgolion Cymru bob blwyddyn, gan gynnwys 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol
  • Mae prifysgolion Cymru yn creu dros £5.3bn ar gyfer economi Cymru a thros 61,700 o swyddi ledled y wlad
  • Mae 94% o raddedigion mewn gwaith neu’n ymwneud ag astudiaeth bellach o fewn 15 mis i raddio
  • Mae busnesau gweithredol a sefydlwyd gan raddedigion o Gymru’n cyfrif am fwy na 13% o gyfanswm y DU - y gyfradd uchaf y pen yn y DU
  • Mae holl brifysgolion Cymru wedi'u hachredu fel Cyflogwyr Cyflog Byw
  • Yn ystod y 5 mlynedd nesaf, bydd prifysgolion Cymru wedi:
    • helpu 1,300 o fusnesau ac elusennau newydd i gael eu ffurfio
    • darparu gwerth 4,000 o flynyddoedd o uwchsgilio a hyfforddiant i fusnesau ac elusennau
    • bod yn rhan o brosiectau adfywio gwerth £536 miliwn i economi Cymru