Mae ‘Nerth mewn Amrywiaeth’ yn nodi sut y gall prifysgolion Cymru gydweithredu, adeiladu ar ragoriaeth ymchwil bresennol yng Nghymru, a gwneud ymchwil ac arloesi yng Nghymru’n fwy gweladwy ledled y DU ac yn rhyngwladol. Wrth wneud hynny, bydd prifysgolion Cymru mewn sefyllfa dda i gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys gydag awdurdodau cyhoeddus, wrth ddarparu dulliau buddsoddi rhanbarthol.

Mae’r adroddiad, gan yr Athro Graeme Reid a gomisiynwyd gan sefydliad Prifysgolion Cymru, yn disgrifio sut mae ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn newid. Mae cyllido rhanbarthol gan yr UE yn dod i ben wrth i fwy o fuddsoddiad gan Ymchwil ac Arloesi’r DU ddod ar gael.

Gan gydnabod bod y bydd amgylchedd cyllido ar gyfer ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn y dyfodol yn rhoi mwy o bwyslais ar gyllido cystadleuol, mae’r adroddiad yn dangos y bydd prosiectau cydweithredol gan ystod o brifysgolion yng Nghymru yn aml yn gryfach na’r hyn y gallai unrhyw brifysgol unigol eu datblygu ar ei phen ei hun.

Mae argymhellion yr Athro Reid yn cynnwys:

  1. Ffocws cychwynnol ar adnoddau sydd wedi’u hanelu at fuddsoddiad rhanbarthol a ‘chydbwyso’ economïau a chymdeithasau ledled Cymru
  2. Ymagwedd symlach newydd ar gyfer cydweithredu mewn ymchwil ac arloesi
  3. Dylai prifysgolion gytuno ar brotocol ar gyfer cydweithredu dan arweiniad tîm newydd ymroddedig

Meddai’r Athro Graeme Reid, a gyflwynodd y gwaith: ‘Mae ymchwil ac arloesi yn gwneud cyfraniadau hanfodol i economi a chymdeithas Cymru, ac mae ei phrifysgolion yn ganolog i’r gweithgaredd hwn.

‘Mae amrywioldeb yn gryfder na wneir y gorau ohono ar hyn o bryd o fewn fframwaith ymchwil Cymru ac, ar adeg pan mae llawer o brifysgolion yn wynebu pwysau ariannol ac ansicrwydd, mae’n bwysicach nag erioed bod sefydliadau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gryfhau ymchwil ac arloesi mewn rhanbarthau ledled y wlad.’

‘Mae hwn yn gyfnod o gyfle a her i brifysgolion yng Nghymru. Mae’n amser i ystyried cryfderau cyfunol y sector, a chwilio am ffyrdd i droi nodweddion amrywiol sefydliadau Cymru yn gryfder cystadleuol ychwanegol a allai gynnig buddion hirdymor sylweddol i economïau a chymdeithasau ledled Cymru.’

Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesi Prifysgolion Cymru: ‘Hoffwn ddiolch i’r Athro Reid am ei adroddiad craff ac amserol sy’n nodi’n glir bod rhaid i ni weithredu ar frys i gryfhau ymchwil ac arloesi ledled Cymru, yn ogystal â darparu dull clir i ni ar gyfer gwneud hynny.

‘Fel sector rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n gilydd i roi’r argymhellion hyn ar waith. Trwy gael un llais cydlynol ar gyfer ymchwil ac arloesi, gallwn gynorthwyo adferiad Cymru o’r pandemig a sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i wneud y mwyaf o’r amgylchedd cyllido cyfnewidiol yn y DU.’

Meddai Julie Lydon OBE, Is-Ganghellor, Prifysgol De Cymru a Chadeirydd Prifysgolion Cymru: ‘Rydyn ni’n gwybod bod ein prifysgolion eisoes wedi chwarae rhan hanfodol yn ymateb y wlad i covid-19. Wrth i ni ddod dros y pandemig, bydd y cyfraniad hanfodol y mae ymchwil ac arloesedd ein prifysgolion yn ei wneud i bobl a lleoedd Cymru yn dod yn bwysicach fyth.

Mae’r argymhellion hyn yn nodi dull a fydd nid yn unig yn ein galluogi i gydweithredu â’n gilydd, ond hefyd ag awdurdodau cyhoeddus, busnesau ac elusennau. Bydd hyn yn cryfhau gallu Cymru i fynd i’r afael â’r heriau rhanbarthol a chymdeithasol sy’n ein hwynebu ac yn sicrhau bod buddion ymchwil ac arloesi yn cael eu teimlo ledled Cymru gyfan.'

Meddai’r Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams ASC:

Mae eleni wedi dangos yn glir pa mor dda yw ein prifysgolion wrth weithio gyda’u cymunedau a gyda sefydliadau eraill. Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn ac edrychaf ymlaen at weld ein prifysgolion yn cydweithio hyd yn oed yn fwy.

‘Edrychaf ymlaen hefyd at drafod pellach gyda gweinidogion llywodraeth y DU ynghylch sut y gellir sicrhau cyfran deg o gronfa Ymchwil ac Arloesi’r DU a chyllid ymchwil arall ar gyfer prifysgolion Cymru.’

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS:

‘Mae addysg uwch yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru twf economaidd, o ymchwil arloesol i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus.

‘Rwy’n croesawu canfyddiadau’r adroddiad, a fydd yn arwain at fwy o gydweithredu ymhlith sefydliadau rhagorol Cymru, ynghyd â pharhau i wneud ein prifysgolion a’r cymunedau y maent wedi’u lleoli ynddynt yn gyrchfannau deniadol ar gyfer buddsoddiad rhyngwladol.’

Dywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr Bargen Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, y byddai’r rhaglen yn croesawu dulliau symlach o gydweithredu rhwng prifysgolion ledled Cymru:

‘Byddai protocol cyffredin ar gyfer y partneriaethau hyn yn allweddol i ddenu arian o ffynonellau allanol a galluogi bargeinion dinas a thwf i ymuno â phrifysgolion i sicrhau bod ymchwil, datblygu ac arloesi yn troi’n fuddion economaidd.

Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru:

‘Rydym yn croesawu’n fawr y fenter hon a gymerwyd gan brifysgolion yng Nghymru ac eglurder yr argymhellion allweddol a wnaed gan yr Athro Reid. Bydd yr ymrwymiad y mae’r prifysgolion yn ei wneud i gryfhau, a symleiddio, eu gweithgareddau ymchwil ac arloesi yn cynyddu ymhellach eu cyfraniad at wella bywydau pobl yng Nghymru.’